Stac rholio’r gweithfeydd dur, Glynebwy

Rhan o olion melin stribed ddi-dor gweithfeydd dur Glynebwy – y gyntaf yn y byd y tu allan i’r Unol Daleithiau - yw’r adeiledd metel enfawr hwn. Gallwch weld ffotograff o’r awyr a darllen am hanes diweddarach y gweithfeydd dur ar ein tudalen am safle’r gweithfeydd dur.

Datblygodd Glynebwy arbenigedd mewn cynhyrchion wedi’u rholio – yn enwedig cledrau haearn ar gyfer rheilffyrdd – ar ddechrau’r 19eg ganrif. Daeth y twf mewn adeiladu rheilffyrdd ag archebion mawr gan gwmnïau ym Mhrydain a thramor, ond fe gaeodd y gweithfeydd dur dros dro ym mis hydref 1929 o ganlyniad i’r argyfwng ariannol rhyngwladol. Taflwyd Glynebwy i mewn i ddiweithdra a thlodi torfol.

Picture of Ebbw Vale steelworks rolling mill in 1938

Ym 1935 cafodd y gweithfeydd dur eu caffael gan Richard Thomas a’i Gwmni, y cyhoeddodd ei gadeirydd William Firth fod gweithfeydd integredig yn cael eu hadeiladu ar y safle. Ar ôl yr ailadeiladu bu’r gweithfeydd yn cynhyrchu haearn a dur a oedd yn cael eu prosesu ar y safle a’u gwerthu i gwsmeriaid ar amryw ffurfiau, gan gynnwys dalenni wedi’u hanelio, tunplat a chynhyrchion wedi’u galfaneiddio.

Yn y felin stribed boeth, roedd ingotiau dur yn cael eu lleihau (“eu rholio”) i ffurfio barrau dur hirfain. Ar ôl eu hail-boethi, roeddent yn cael eu rholio dro ar ôl tro i leihau eu trwch.

Roedd y cyfleuster rholio poeth ar gyfer gorffennu, a gomisiynwyd ar 3 Hydref 1938, yn pasio’r stribedi dur trwy gyfres o bum stand melin. Yr un a welwch yma oedd yr olaf yn y drefn.

Darparwyd y standiau gan y cwmni Americanaidd, United Engineering. Roedd pob un yn cynnwys pedwar rholyn. Roedd y stribed ddur yn pasio rhwng y pâr canol o roliau. Dangosir nifer o standiau yma, trwy garedigrwydd Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy, o glawr blaen The Times Weekly Edition dyddiedig 21 Gorffennaf 1938.

Roedd y buddsoddiad yn amserol, gan mai buan iawn yr oedd ar Brydain angen symiau aruthrol o ddur ar gyfer ymdrech y rhyfel. Cynhyrchodd Glynebwy fwy na 300,000 o dunelli’r flwyddyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ar gyfer defnyddiau a oedd yn cynnwys ffrwydron a cherbydau durblatiog.

Yn sgîl buddsoddi pellach ar ôl y rhyfel fe gynyddodd yr allbwn eto, gan gyrraedd uchafbwynt o 1,080,000 o dunelli ym 1960. Cynhyrchwyd y coil olaf trwy rolio poeth ar 13 Hydref 1977.

Gallwch ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a ffotograffau sy’n ymwneud â chynhyrchu dur yn lleol yn Amgueddfa Gweithfeydd Dur Glynebwy, yn hen Swyddfeydd Cyffredinol y gweithfeydd (ar bwys y stac rholio). Dilynwch y ddolen isod ar gyfer manylion ymweld.

Gyda diolch i Mel Warrender, o Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy

Cod post: NP23 6AA    Map

Gwefan Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy

button-tour-ebbw-vale-town-trail previous page in tournext page in tour