Hen swyddfeydd y gweithfeydd dur, Glynebwy

sign-out

Codwyd yr adeilad mawreddog hwn ym 1915-1916 fel Swyddfa Gyffredinol gweithfeydd dur Glynebwy. Byddai wedi bod yn fwy mawreddog byth, ond fe ymyrrodd y Rhyfel Byd Cyntaf â hynny. Roedd tŵr y cloc yn y pen dwyreiniol i fod yng nghanol ffryntiad yr adeilad!

Exterior of General OfficesBwriwch olwg y tu mewn ar y staer urddasol (yn y llun isod) a’r teils addurnol. Mae’r adeilad yn gartref i Amgueddfa Gweithfeydd Dur Glynebwy, lle gallwch weld ffotograffau a gwrthrychau eraill sy’n ymwneud â hanes diwydiannol yr ardal.

Dechreuwyd cynhyrchu haearn yng Nglynebwy ym 1789, gan fanteisio ar fwyn haearn lleol. Ym 1857 fe gynhyrchodd y gweithfeydd haearn y cledrau dur cyntaf yn y byd mwy na thebyg ar gyfer trenau, ar ran Robert Mushet, haearnfeistr arloesol o Fforest y Ddena.

Rhoddodd y cledrau i Reilffordd Canolbarth Lloegr i’w profi ger gorsaf Derby, lle parhawyd i’w defnyddio am flynyddoedd lawer – gan ddangos cymaint yn well oedd dur na chledrau haearn gweddol frau.

Staircase at General OfficesDaeth safle Glynebwy’n weithfeydd dur yn y 1860au, gan fabwysiadu proses Syr Henry Bessemer a oedd yn chwythu aer trwy haearn tawdd i gael gwared ar garbon. Nid oedd ei broses yn addas ar gyfer haearn a oedd yn cynnwys ffosfforws, ond roedd mwyn haearn o Gymru (yr oedd wedi’i ddefnyddio ar gyfer ei arbrofion) yn anarferol yn y ffaith ei fod bron heb unrhyw ffosfforws ynddo o gwbl.

Ffynnodd Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy ar ddechrau'r 20fed ganrif. Cafwyd tro anffodus ym 1915 pan wnaeth tân ddinistrio gorsaf bŵer y cwmni yn Victoria. Fe achosodd hyn i’r ffwrneisi chwyth gael eu tagu gan haearn, a oedd wedi oeri a chaledu y tu mewn iddynt.

Bu menywod yn gwneud ffrwydron yn y gweithfeydd dur yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw mwy na 400 o ddynion o’r gweithfeydd wrth wasanaethu yn y rhyfel. Dychwelodd un o’r goroeswyr, y gof Jack Williams, gyda nifer o fedalau gan gynnwys Croes Fictoria, a rhoddodd y cwmni swydd iddo yn adeilad y Swyddfeydd Cyffredinol a chartref a chyflenwad oes o lo. Gosodwyd plac glas er cof amdano ar yr adeilad yn 2014.

Yn agos at adeilad y Swyddfeydd Cyffredinol gallwch weld stac rholio enfawr, a gomisiynwyd ym 1938 fel rhan o felin stribed ddi-dor Glynebwy – yn gyntaf yn Ewrop.

Ym 1967 cafodd y gweithfeydd dur eu gwladoli. Rhoddwyd y gorau i gynhyrchu dur yn y 1970au a daeth y gweithfeydd yn gyfleuster arbenigol ar gyfer caenu dur a gynhyrchwyd ar safleoedd eraill Dur Prydain. Fe gaeodd y gweithfeydd yn 2002 ac fe gliriwyd y safle ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau newydd.

Yn 2011 fe estynnwyd adeilad y Swyddfeydd Cyffredinol ar yr ochr orllewinol i ddarparu adeilad ar gyfer Archifau Gwent, lle gall y cyhoedd weld casgliad mawr o gofnodion hanesyddol. 

Cod post: NP23 5DN    Map

Gwefan Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy

Gwefan Archifau Gwent

button-tour-ebbw-vale-town-trail previous page in tournext page in tour