Eglwys San Mihangel, Abertyleri
Arferai Anglicaniaid Abertyleri gerdded i eglwys y Blaenau, taith o oddeutu 10km (chwe milltir) yno ac yn ôl, cyn i ystafell yn y Royal Oak Inn gael ei sicrhau ar gyfer addoli ym 1846. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, agorwyd Eglwys gyntaf San Mihangel, gyda lle i 230 o bobl.
Tyfodd Abertyleri mor gyflym fel mai buan iawn yr aeth yr eglwys yn rhy fach, er bod y rhan fwyaf o’r boblogaeth yn mynychu capeli Anghydffurfiol. Cafodd yr eglwys o’r 1850au a oedd wedi mynd â’i phen iddi ei dymchwel a’i disodli â’r un a welwn yma heddiw. Cafodd yr eglwys newydd, a oedd yn ddigon mawr i fwy na theirgwaith gymaint o addolwyr, ei chysegru ym 1899. Fe’i codwyd o garreg leol gyda naddiadau mewn carreg Caerfaddon. Mae waliau mewnol yn frics llwydfelyn o Lynebwy.
Ym 1906 fe estynnwyd yr adeilad gyda’r gangell, capel boreol, festrïau ar gyfer clerigwyr a chôr, a siambr organ yn cael eu hychwanegu. Fe gostiodd dau gam y gwaith adeiladu oddeutu £6,000 i gyd (dros £600,000 heddiw). Roedd y dyluniad hefyd yn cynnwys tŵr gyda meindwr, ond nid adeiladwyd y rhain erioed. Byddent wedi bod yng nghornel dde-orllewinol yr eglwys (i’r chwith o’r brif fynedfa) – fel a ddangosir yn yr hen luniad.
Ym 1908 fe gwynodd rhai aelodau o’r gynulleidfa wrth y ficer am eu bod yn teimlo ei fod wedi mabwysiadu arferion Catholig Rhufain, gan gynnwys arddangos croes fawr y tu ôl i’w bulpud a darparu Cymun Sanctaidd ar foreau Sul yn lle’r weddi foreol arferol. Fodd bynnag, cefnogwyd y ficer, y Parch. Hiram Smyth Rees, gan blwyfolion eraill. Fe dynnwyd y groes ym mis Tachwedd 1908 ond ni wnaed unrhyw gonsesiynau eraill. Fe gyflwynodd yr achwynwyr ddeiseb i Esgob Llandaf, a nododd y pwyntiau a wnaed gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddai heddwch yn teyrnasu rhwng eglwyswyr y dref yn y dyfodol.
Ym 1910 fe briododd y cyn-löwr dall William Penn â’r nyrs Elizabeth Emma Thomas yn yr eglwys, ar ôl iddynt fod yn canlyn am 12 mlynedd. Roedd wedi colli ei olwg mewn damwain tanio yng nglofa Cwmtyleri ac yntau wedi cael ei gludo i’r ysbyty yng Nghaerdydd, lle bu Elizabeth yn ei nyrsio am 10 wythnos. Bu’r cwpl yn gohebu yn ystod ei thair blynedd hi yn Ne Affrica fel nyrs yn ystod Rhyfel y Boeriaid. Yn y cyfamser, fe wnaeth William ailhyfforddi a dechrau gyrfa newydd fel tiwniwr pianos yn ardal Abertyleri.
Ar wal y fynwent gallwch weld plac glas yn coffau’r arlunydd John Selway (1938-2017), a oedd yn byw ac yn gweithio yn Abertyleri. Fe greodd Orsafoedd y Groes i’r eglwys, a symudwyd yn ddiweddarach i amgylchedd mwy addas at ddibenion cadwraeth.
Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cod post: NP13 1DA Map
Gwefan St Eglwys San Mihangel
![]() |