Arcêd Abertyleri

button-theme-pow

Mae’r arcêd siopa Fictoraidd hon wedi bod yn ganolbwynt i fywyd masnachol y dref ers y 1890au hwyr. Roedd y masnachwyr cyntaf yma’n gwerthu pysgod a ffrwythau, cig, hufen iâ a lluniaeth arall, nwyddau haearn, dillad, losin, tybaco a theganau. Roedd fferyllydd, groser a thriniwr gwallt yn masnachu yma hefyd. Mae’r ffotograff, a ddarparwyd trwy garedigrwydd Amgueddfa Abertyleri a’r Cylch, yn dangos yr arcêd oddeutu 1920.

Photo of Abertillery Arcade c.1920

Cychwynnwyd yr arcêd gan y cynghorydd Samuel Nathan Jones, a oedd wedi cymryd drosodd fusnes siop groser ei dad yn y cyffiniau. Roedd ei rieni, Edward a Jane, wedi agor swyddfa bost gyntaf Abertyleri ym 1848. Daeth cefnder Samuel, Charles Evan Hughes, yn Llywodraethwr Talaith Efrog Newydd ym 1906.

Cafodd y caffi yn yr arcêd ei redeg gan gyfres o fewnfudwyr Eidalaidd, gyda’r cyfenwau Bracchi, Tedaldi, Berni, Carpanini a, tan 1932, Marenghi. Fe wnaeth Giovanni Tedaldi a’i wraig Seisnig Mary, o’r Arcêd, syrthio allan o drên ger Henffordd ym 1910 tra’r oeddent yn teithio adref o Sioe Flodau Amwythig. Yn y tywyllwch roeddent yn meddwl bod y trên wedi cyrraedd gorsaf ac fe gamon nhw allan o’u cerbydran, y naill ar ôl y llall! Er eu bod wedi eu hanafu, roeddent yn ymwybodol pan aethpwyd â hwy i’r ysbyty mewn car modur.

Cafodd y gwerthwr tybaco John Thomas James ddirwy o £50 ym 1909 (mwy na £6,000 yn arian heddiw) am ddefnyddio ei siop yn yr Arcêd ar gyfer betio. Roedd yr heddlu wedi gweld 22 o wŷr yn ymweld â’r siop am ryw eiliad ar y tro!

Portrait of Royal Marine John WilliamsAr ôl cnwd anarferol o drwchus o eira ym mis Mawrth 1933, fe dorrodd to gwydr yr arcêd dan bwysau’r eira.

Cafodd Mr a Mrs G Williams, a oedd yn byw yn Adeiladau Prudential yn yr Arcêd, eu hysbysu yn ystod yr Ail Ryfel Byd bod eu mab John yn cael ei ddal yn garcharor rhyfel gan y Japaneaid. Roedd John (sydd yn y llun) wedi mynychu Ysgol Ganol Bryngwyn ac wedi bod yn addoli yn Eglwys y Bedyddwyr yn Stryd y Brenin. Bu’n gweithio yng Nglofa Vivian, Abertyleri, cyn ymuno â’r Morlu Brenhinol ym 1937. Roedd yn Fagnelwr ar y llong ryfel HMS Prince of Wales, a suddwyd gan awyren Japaneaidd ym mis Rhagfyr 1941.

Gyda diolch i Graham Bennett a Shaun McGuire

Cod post: NP13 1DH    Map

Mwy o hanes yr arcêd ar wefan Graham Bennett

button-tour-abertillery-town-trail previous page in tournext page in tour