Ffatri hufen iâ Sidoli, Glynebwy
Gwneir hufen iâ yma gan ddisgynyddion i Eidalwr mentrus a ymgartrefodd yng Nghymru pan oedd yn blentyn ac a gaethiwyd am bum mlynedd yn y 1940au.
Dim ond 12 oed oedd Benedetto Sidoli ym 1922 pan deithiodd o Bardi, Yr Eidal, i Cwm, i’r de o Lynebwy, i ymuno â’i frawd hŷn, Bert. I ddechrau bu’r brodyr yn gwerthu diodydd i lowyr y tu allan i’r lofa leol. Yn ddiweddarach fe agoron nhw gaffi lle’r oeddent yn gwerthu hufen iâ.
Fe briododd Ben â merch leol o’r enw Doris. Fe sefydlon nhw siop yn Stryd Fawr Glynebwy lle’r oeddent yn gwneud ac yn gwerthu hufen iâ fanila. Byddai’r iâ hollbwysig yn cael ei ddanfon mewn bloc ar drên o Gaerdydd yn gynnar bob bore am nifer o flynyddoedd, nes i rewgell gael ei gosod ym 1936.
Ym mis Mehefin 1940, cyhoeddodd yr Eidal ei bod yn ochri gyda’r Almaen yn yr Ail Ryfel Byd. Yn fuan wedi hynny cafodd gwŷr Eidalaidd a oedd yn byw ym Mhrydain eu harestio fel “estroniaid y gelyn”. Anfonwyd Ben i Ynys Manaw, lle cafodd ei gaethiwo tan fis Medi 1945. Anfonwyd ei fab hynaf i weithio ar ffermydd. Bu ei offer yn segur trwy’r rhyfel, heblaw am gyfnod byr pan y’i defnyddiwyd i ddarparu hufen iâ ar gyfer milwyr Americanaidd a oedd wedi’u gosod mewn gwersyll yng Ngilwern!
Yn fuan wedi’r rhyfel, prynodd Ben y safle hwn yn Sgwâr y Farchnad i allu cynhyrchu mwy. Bu’r cwmni’n gwerthu hufen iâ ar raddfa eang, mewn nifer o flasau, a daeth yn enw cyfarwydd ledled De Cymru. Yn ystod haf poeth a sych 1976 defnyddiodd y cwmni sifftiau nos dros dro i aros gyfuwch â’r galw.
Mae cenedlaethau olynol o Sidolis wedi parhau â’r busnes. Fe ymunodd Stefano Sidoli – hen ŵyr Ben – â’r cwmni yn 2006 ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe.
Sefydlwyd nifer o fusnesau hufen iâ eraill yng Nghymru yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif gan ymfudwyr o’r Eidal. Maent yn cynnwys Parisella’s yng Nghonwy a Frank’s yn Rhydaman.
Cod post: NP23 6YN Map
![]() |