Cloc tref Glynebwy

BG-LogoBG-words sign-out

Gosodwyd y cloc hwn yn 2009. Fe saif yn agos at y lle yr arferai croesfan wastad wahanu Stryd y Farchnad a Stryd Bethcar ar un adeg, ym mhen dwyreiniol gorsaf reilffordd lefel-uchel y dref.

Archebwyd y cloc yn 2002 fel rhan o adfywio’r dref yn dilyn cau’r gweithfeydd dur yn 2001. Dyluniwyd y cloc gan Marianne Forrest. Mae ei ddur gloyw’n deyrnged i dreftadaeth cynhyrchu haearn a dur y dref dros gyfnod hir. Mae wynebau’r cloc yn debyg i olwynion pen pwll, sy’n atgoffa o’r 19eg ganrif pan oedd lefelydd glo neu siafftiau glo o gwmpas y dref i gyd – ac oddi mewn iddi.

Mae safle’r cloc yn briodol yn hanesyddol oherwydd nad oedd angen safoni amser nes datblygu rhwydwaith rheilffyrdd Prydain yn y 19eg ganrif. Yn flaenorol byddai pob ardal yn gosod ei chlociau yn ôl y wawr a machlud haul, ond roedd angen cysondeb rhwng amserlenni trenau ledled Prydain. Darparodd yr Arsyllfa Frenhinol yn Llundain y datrysiad ym 1852: technoleg a oedd yn trosglwyddo signal amser cywir trwy’r rhwydwaith telegraff.

Old photo of level crossing in centre of Ebbw ValeAgorwyd gorsaf lefel-uchel Glynebwy ym 1867 gan Reilffordd Llundain a’r Gogledd Orllewin (LNWR), a oedd wedi adeiladu rheilffordd o Beaufort i’r orsaf newydd. Roedd gorsaf lefel-isel gan y Rheilffordd Orllewinol Fawr (GWR) yn barod – mae’r ffordd o’r enw Station Approach yn rhan o’i gweddillion. Roedd gorsaf ac iard nwyddau LNWR yn y lletem o dir rhwng Stryd y Farchnad a Stryd Iago (safle’r maes parcio aml-lawr a’i siopau cyfagos heddiw). Fe gaeodd yr orsaf ym 1951 ond fe barhawyd i ddefnyddio’r cledrau ar gyfer nwyddau.

Roedd y rheilffordd yn parhau dros y groesfan wastad at y gweithfeydd dur a Glofa Fictoria. Mae’r hen ffotograff (sy’n dod cyn bo hir) yn dangos bws yn aros yn Stryd Bethcar wrth i drên nesáu at yr hen orsaf. Mae’r wagenni mwy na thebyg yn rhai gweigion a oedd yn dychwelyd i Drefil i gael eu llwytho â chalchfaen ar gyfer y gweithfeydd dur.

Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cod post: NP23 8HL    Map

button-tour-ebbw-vale-town-trail previous page in tournext page in tour