Cofeb Nyrs Thora Silverthorne, Abertyleri

button-theme-womenMae gan Abertyleri ddwy gofeb i Thora Silverthorne, a oedd yn un o’r nyrsys cyntaf o Brydain i deithio i Sbaen i helpu’r Gweriniaethwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen.

abertillery_thora_silverthorneFe’i ganed ym 1910 yn 170 Stryd Alma – ychydig ddrysau i ffwrdd o’r lle y gallwch bellach weld murlun sy’n ei phortreadu ar hen ddrws tafarn. Ceir plac porffor er anrhydedd iddi hefyd ar wal Theatr ac Amgueddfa’r Metropole.

Roedd Thora’n un o wyth o blant a aned i Sarah a George Silverthorne. Bu farw Sarah pan oedd Thora yn 16. Fe helpodd George, a oedd yn löwr, i sefydlu’r Blaid Gomiwnyddol leol. Fel aelod blaenllaw o undeb, cafodd y sac yn ystod Streic Gyffredinol 1926 ac fe symudodd i Reading i ddod o hyd i swydd newydd.

Fe ymunodd Thora â’r Cynghrair Comiwnyddol yn Reading. Fe astudiodd yn Ysbyty Radcliffe Rhydychen i ddod yn Nyrs Gofrestredig a goruchwylwraig theatr.

Ym 1936 fe wnaeth gwrthryfel y Cadfridog Franco, unben ffasgaidd, yn erbyn y llywodraeth Weriniaethol a etholwyd yn ddemocrataidd yn Sbaen sbarduno rhyfel cartref.

Gallwch ddarllen mwy am y gwrthdaro ar ein tudalen am gofeb Rhyfel Cartref Sbaen yng Nghaerdydd.

Ym mis Awst 1936 fe gamodd Thora ar drên yng ngorsaf Victoria Llundain, lle’r oedd torf o oddeutu 10,000 wedi ymgynnull i ddymuno’n dda i’r gwirfoddolwyr a oedd yn ymadael. Fe’i hetholwyd yn Fetron tîm nyrsio yn y Brigadau Rhyngwladol. Byddai hi a’r llawfeddyg Sbaenaidd Dr Moises Broggi weithiau’n gweithio am fwy na 24 awr heb orffwys pan oedd niferoedd arbennig o fawr o glwyfedigion. Bu'r tîm yn trin oddeutu 700 o anafusion Gweriniaethol mewn un cyfnod o bum niwrnod. Mae'r ffotograff isaf yn dangos Thora wrth ei gwaith yn Sbaen (canol y llun).

abertillery_thora_silverthorne_nurse_in_spain

Yn ystod ei 15 mis yn Sbaen, fe sefydlodd ystafelloedd llawdriniaeth mewn lleoliadau amrywiol, a oedd yn aml yn gryn her. Roeddent yn cynnwys adeiladau wedi’u bomio, ysgolion a hyd yn oed ogof. Ar adegau, brandi oedd yr unig anaesthetig a oedd ar gael.

Yn ôl ym Mhrydain, dechreuodd Thora deimlo wedi ei dadrithio gyda Choleg Brenhinol y Nyrsys. Ym 1942 fe greodd Gymdeithas y Nyrsys, a ddaeth yn rhan o undeb Unison yn y pen draw. Yn ddiweddarach roedd hi’n ysgrifennydd cyffredinol y Gymdeithas Feddygol Sosialaidd. Yn y rôl honno bu’n arwain dirprwyaeth i siarad gydag Aneurin Bevan am sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Roedd ef yn hanu o Dredegar, ger Abertyleri. Fe ymddeolodd Thora a’i gŵr i Lanfyllin, Powys, ond fe ddychwelon nhw i Lundain ym 1996 i fod yn nes at berthnasau gan ei bod hi wedi dechrau dioddef o glefyd Alzheimer. Dair blynedd yn ddiweddarach, taenwyd baner y Brigadau Rhyngwladol dros arch Thora ar gyfer ei hangladd.

Gyda diolch i Nancy Cavill

Cod post: NP13 1AH    Map

Gwefan Placiau Porffor – yn dathlu menywod nodedig yng Nghymru

button-tour-abertillery-town-trail previous page in tournext page in tour