Cofeb rhyfel Abertyleri

Dadlennwyd prif gofeb rhyfel y dref ym mis Rhagfyr 1926 i goffau oddeutu 400 o bobl leol a oedd wedi marw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd paneli yn rhestru’r rhai a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd eu hychwanegu ym 1954. 

Mae’r ddelw o’r milwr yn gopi o un a wnaed gan George Havard Thomas ar gyfer y gofeb rhyfel yn Waterhead, ger Oldham. Roedd Agnes Dolman, o Gymdeithas y Dinasyddion Benywaidd yn Abertyleri, wedi gweld y gofeb rhyfel honno wrth ymweld ag Oldham. Yn ddiweddarach fe gwrddodd â’r cerflunydd yn Llundain a gofynnodd iddo a allai ddarparu copi o’r ffigwr ar gyfer Abertyleri. 

Roedd ar Gymdeithas y Dinasyddion Benywaidd eisiau i’r gofeb rhyfel gyfleu ymdeimlad o aberth, yn hytrach na buddugoliaeth. 

Agnes, yr oedd ei gŵr Arthur yn gyfreithiwr, oedd trysorydd yr apêl a gododd dros £1,300 ar gyfer y gofeb rhyfel, gan gynnwys rhoddion gan deuluoedd a oedd wedi ymfudo i’r Unol Daleithiau o Abertyleri.

Yn 2023 fe gyfrannodd y cyhoedd arian tuag at gost murlun ar dalcen y tŷ y tu ôl i’r gofeb ryfel. Fe beintiodd yr artist stryd Tee2Sugars ddelwedd o filwr yn penlinio wrth fedd cydfilwr.

Gyda diolch i Graham Bennett ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cod post: NP13 1DR    Map

Mwy am hanes y gofeb ar wefan Graham Bennett

button-tour-abertillery-town-trail previous page in tournext page in tour