Pobl Conwy: Tony Parisella
Pobl Conwy: Tony Parisella
Symudodd taid Tony, Domenico, o’r Eidal i Gymru yn 1912, gan ymuno yn hwyrach â’r gymuned Eidalaidd fywiog yn Llandudno. Mae Tony’n byw yng Nghonwy lle mae’n dal i gynnal busnes hufen iâ poblogaidd ei daid â balchder.
Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.
Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain
Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

Transcript:
Daeth fy nhaid, Domenico, i Brydain ym 1912 ar ôl ymfudo o’r Eidal, yn y gobaith am fywyd gwell … Cafodd waith yn yr Alban, yn gweithio i gwmni oedd yn gwneud hufen iâ yn yr haf, a physgod a sglodion yn y gaeaf. Cafodd amrywiaeth o hyfforddiant defnyddiol oherwydd ...
... Ar ddiwedd y 40au, roedd gobaith o waith yn Llandudno, a oedd yn ardal addawol i Eidalwyr weithio ynddi ar y pryd, a dechreuodd weithio gyda’r teulu Forte, a oedd yn adnabyddus iawn yn Llandudno ...
... bu’n gwneud hufen iâ i’r teulu Forte am rai blynyddoedd ac yna penderfynodd ei fod yn rhywbeth y byddai’n awyddus i’w wneud ar ei ben ei hun ... daeth o hyd i’r lleoliad perffaith yng Nghonwy yn y pum degau, ar ddechrau’r pum degau, mewn safle yn Sgwâr Lancaster, lle agorwyd “The Contintenal Ice Cream Parlour” ym 1952 ...
... Yn y parlwr hwnnw, bu’n gweithio gyda’m nain, wrth gwrs a'u tri phlentyn: Leo, Irena a Joe, fy nhad ...
... a chafodd gefnogaeth gan y teulu i gyd, roedd yn “fusnes teuluol” i bob pwrpas, roedden nhw’n berchen ar yr adeilad i gyd ar Sgwâr Lancaster bryd hynny, sef Bwyty Indiaidd Raj erbyn hyn, ond roedden nhw’n berchen ar yr holl fflatiau i fyny’r grisiau ac arferai nain gymryd lletywyr ...
... roedd fy nain yn cynnig llety i bobl Eidalaidd a arferai ddod draw i weithio i'r busnes dros yr haf, roedden nhw’n bwyta ar y safle hefyd, arferai nain goginio sbageti, ac rwy’n cofio gweld platiau mawr o sbageti’n dod allan ...
... a daliodd taid ati i wneud hufen iâ yn y ffatri fach hon ar Sgwâr Lancaster tan ganol y saith degau, pan oedd yntau yn ei wyth degau, a phenderfynodd ymddeol ym 1974, ond aeth y busnes yn ei flaen hebddo, cymerodd fy nhad, Joe drosodd fel Rheolwr Gyfarwyddwr ...
... ac erbyn y naw degau, roedd yn amlwg bod angen ‘ailfeddwl’, a daeth fy nhad ata i, ac aeth y busnes o nerth i nerth, gan barhau i weithredu o’r safle yng Nghonwy, yr holl flynyddoedd hynny’n ddiweddarach ...
... wrth feddwl yn ôl i ddyddiau fy nhaid, y peth oedd ... ’dw i’n meddwl fod tua 99% o’r blasau yn fanila ...
... mae’r cyfleoedd i arbrofi â hufen iâ a gwneud blasau’n seiliedig ar goginio y dyddiau hyn ar gael gan fod y cyflenwyr yn cyflwyno cynhwysion gwych drwy’r amser, rhai nad oedd ar gael yn y pum degau. Ond eto, nid oedd y farchnad wedi esblygu eto, roedd pobl yn ddigon hapus i gael fanila, fanila o safon neu hyd yn oed mefus ...
... a wyddoch chi, rydym yn ceisio darparu ar gyfer pobl yn unol â’u blasau, rhywbeth na fyddai fy nhaid wedi gallu ei wneud. Bryd hynny, dydw i ddim yn meddwl inni gael llawer o ymwelwyr o dramor yn yr ardal. Byddai ymwelydd tramor yn y dyddiau hynny wedi bod yn rhywun o Iwerddon mwy na thebyg ...