Pobl Conwy: Steve Morris
Pobl Conwy: Steve Morris
Dechreuodd Steve weithio i Hotpoint yn y 1970au, ac roedd yn un o blith 170 aelod o staff oedd yn gweithio yng Nghyffordd Llandudno pan gaewyd drysau’r ffatri ym 1992. Mae Steve yn rhannu ei atgofion o’r ‘safiad olaf’ ac effaith cau’r ffatri ar y gymuned glos hon.
Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.
Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain
Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

Transcript:
Roedd gan ffatri Cyffordd Llandudno hanes hir iawn, iawn … roedden nhw’n gwneud adenydd a rhannau adenydd ar gyfer ... De Havilland ... oedd yn gwneud Awyrennau Bomio Caerhirfryn ym Mrychdyn.
... Y peth oedd, roedd y safle’n hunangynhwysol yn wreiddiol ... yn y Gyffordd arferai fod y prif safle, sef lle mae’r Point yn awr, lle mae’r holl fodurdai, mae’r cyfan ar y safle yna ... y siop weldio ... yr adran weirio ... a’r ... siop beiriannau ... sef ble mae adeilad y Cynulliad Cenedlaethol rŵan ...
... yn y Gyffordd roedden nhw’n gwneud ... peiriannau golchi dau dwb. Arferai fod twb ar wahân ar gyfer golchi a throelli. Byddai’r wraig tŷ neu’r gŵr tŷ yn rhoi’r golch yn un ochr, yn ei lenwi â dŵr cynnes â llaw, yn rhoi’r powdr i mewn, ac yna’n ei adael i olchi ...
... roedd dylanwad Hotpoint yn eithaf mawr ar yr ardal hon, mewn ffordd gynnil iawn, wyddoch chi ... Roedd y ffatri ym Modelwyddan yn ddemograffig gwahanol: felly roedd pobl y gallech weithio gyda nhw ar y llinell gynhyrchu, fyddech chi ddim yn eu hadnabod nhw. Pan ddaeth hi i’r ffatri wreiddiol yn y Gyffordd: teuluoedd oedd yno, roedd pawb yno’n byw yn yr ardal ... ar y pryd, roedd Hotpoint yn annog teuluoedd yno, roedd yn fusnes ‘teuluol eu naws’ ...
... y syniad oedd bod teuluoedd yn cydweithio a bydden nhw’n haws ymddiried ynddynt; roedden nhw’n fwy dibynadwy; roedd yn lle eithaf cryf i fod ynddo ...
... ac mi fydda i’n onest gyda chi, fel goruchwyliwr, roedd rhaid i chi fod yn ofalus iawn bob amser o gynhyrfu un person oherwydd byddai teulu o ddeuddeg yn gweithio yn y ffatri a byddai’r mater yn ymledu fel tân gwyllt a byddech ... byddech yn cael pob math o gynnwrf fel pobl ddim eisiau gweithio goramser yn sydyn neu’n ymddwyn yn wael oherwydd roeddech chi wedi ypsetio’r ‘tad’, wyddoch chi ...
... roedd mwyafrif y bobl o safle’r Gyffordd wedi mynd i Fodelwyddan: nawr roedd hynny’n loes calon oherwydd roedd hanfod y gymuned oedd yma wedi’i golli’n llwyr oherwydd cawsant eu gwasgaru mewn ffatri oedd mwy fel gorsaf reilffordd ...
... ac roeddwn i’n meddwl ‘wel, rydyn ni yma o hyd, wyddoch chi, mae yna endid yma o hyd’, felly cawsom gystadleuaeth i enwi’r ffatri ac yna unwaith roedd gennym yr enw, wyddoch chi, rydyn ni yma o hyd ... mae’r prif safle wedi mynd ond ... mae ysbryd Hotpoint yn parhau, ac felly gwnaethom hynny a’i enw oedd Parc Ysgyryn ar ôl y ... pentref bach ar y pen uchaf, tuag at Pydew ...
... gwnaethon ni bopeth, popeth allwn ni i symleiddio cynhyrchiant, i wella cynhyrchiant i wneud cymaint ag y gallen ni mewn gwirionedd ...
... chi’n gwybod beth, roedd yn gymysgedd o ddagrau llwyr chi’n gwybod ... roedd yn eithaf erchyll, yn drist iawn wyddoch chi, oherwydd profedigaeth ydyw, mae’n brofedigaeth enfawr ond tydi: rydych chi’n cymryd i ffwrdd ... nid dim ond ffatri peiriannau golchi ydoedd ... roedd yn cymryd i ffwrdd, ac yn rhwygo’r gymuned hon nad oedd byth yn mynd i ddod yn ôl at ei gilydd eto. Roedd traddodiadau oedd wedi’u sefydlu, wyddoch chi, yn cael eu rhwygo i fyny ac roedd yna ymdeimlad ofnadwy o golled ...
... ac un o’r pethau tristaf a welais erioed oedd ar newyddion Cymru, pan gyfwelon nhw ag ychydig bobl yn dod allan o gatiau cefn y ffatri pan ddaeth y cyhoeddiad ei fod o’n cau o’r diwedd, roedd pobl yn dweud “Rwy’n teimlo rhyddhad oherwydd rwy’n gwybod ble ydw i rŵan ...