Pobl Conwy: Peter a Liz Lawton


Pobl Conwy: Peter a Liz Lawton
Brodor o Fae Colwyn yw Peter ac mae Liz wedi byw yno am y rhan helaeth o’i bywyd. Mae Peter yn ddyn glanhau ffenestri ac yn 2019 roedd yn dal wrthi’n ddiwyd – ac yntau’n 81 oed. Ei dad a’i daid a ddechreuodd y busnes dros 100 mlynedd yn ôl. Yma mae Peter a Liz yn hel atgofion am eu hieuenctid ym Mae Colwyn – y gwestai, sinemâu a siopau, a’r hen ffair!
Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.
Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain
Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

Trawsgrifiad – geiriau Liz mewn print italig
Pan gefais fy ngeni ar y cyntaf o Ionawr tri deg with (1938), cefais fy ngeni adref oherwydd nid oedd cartref mamolaeth Nant y Glyn wedi’i adeiladu bryd hynny …
… ie, Sid Lawton oedd fy nhad, cafodd swydd gyda Duff’s Dairies yn y West End. Felly, roedd yn arfer tynnu’r ceffyl o gwmpas i gludo’r llefrith …
… yna gwnaeth fy nhaid a fo brynu rownd glanhau ffenestri ac roedden nhw’n arfer gwthio cert llaw i fyny Bryn y Maen …
... roedd gan Miss Terry dŷ i fyny’r fan honno, ‘Terry’s Chocolates’; Mr Ditchurn, prynodd e’r hawliau ar gyfer jiwcbocsys ... Ie ... Roedd o’n byw yn y fan honno ... Roedd llawer o bobl gyfoethog i fyny yno ...
... ac yna roedd Mr Hacking, roedden ni’n mynd i’w dŷ o ... ac roedd y ffenestr yn llawn batris gwlyb, pob un yn cael eu gwefru ... roedd ganddo siop radio i fyny’r dref ... lle’r oedd Gilbert Emery’s, rwy’n credu mai’r siop Clown Around ydyw rŵan ...
... drws nesaf i honno roedd o, ac LTM Butchers wedi hynny rwy’n meddwl ...
... siop Daniel Allen ... O mi’r oedd honno’n siop hardd ... Bydden nhw’n gwerthu gwely, gwydr, unrhyw beth ... Mae Peter yn aml yn dweud bod pobl yn dod o Gaer i siopa fan hyn ... Wel, ie, i Woods a llefydd felly ...
... Station Road, arferai Glen Charles werthu ei bapurau o’r fan honno mewn cert llaw bach ... Roedd Neville’s hefyd yndoedd? Neville’s i lawr y gwaelod ... O, roedd Bill Jones y gemydd, Jones the Jewellers, roedd hwnnw’n lle crand ... Ac roedd dwy siop ffwr ... Star ... Mae’r Maypole ... Ie ... oedd yn gwerthu menyn a chaws, a’r math yna o bethau ... roedd y siop bysgod ar y pen uchaf, Arundales ... Ie, Arundales ... ac yna roedd Woods, sef Peacocks erbyn hyn/sef Peacocks ...
... Pan oedd gennym y rownd glanhau ffenestri, roedden ni’n arfer gwneud y Queens Hotel, Hen Golwyn; Colwyn Bay Hotel; Mount Stewart, Rhos Abbey ... Roeddwn i’r arfer gweithio yn y fan honno ...
... Colwyn Bay Hotel; roedd ganddyn nhw far coctels bach. Roedd Mam a Dad, a Charlie Hill, yr Outfitters a Ken Neil a’i wraig, roedden nhw i gyd yn arfer mynd yno ar nos Sadwrn ...
... Roedd gynnon ni’r ffair a phobman i fynd iddyn nhw, ond oedd? ... Wyddoch chi ble mae’r orsaf? Cerddwch i lawr yr orsaf fel petaech chi’n mynd i’r traeth, wel roedd y ffair ar y dde ... Lle mae’r ffordd rŵan ...
... Ceir taro, cychod ... roedd o’n bwll enfawr gyda chychod trydan ynddo, wyt ti’n cofio hynny? Na, dydw i ddim yn cofio hynny. Roedd yr holl geir taro ar y pen pellaf ...
... Danny’s slots ... Chwyrligwgan ... roedd yna chwyrligwgan mawr ... o, y ceffylau bach ynte ... Ie ... roeddet ti’n hoffi mynd ar y ceffylau bach ond oeddet ...
... Roedd yr Odeon yn sinema a hanner ... O, roedd o’n anferth, yn adeilad hardd ... Art Deco ... Rwy’n rhyfeddu eu bod nhw wedi rhoi caniatâd i’w fwrw i lawr ...
Penderfynodd rhyw fachan wneud protest am rywbeth, pan wnaethon nhw ei fwrw i lawr, alla i ddim â chofio rŵan am beth oedd y brotest ... Ie, roedd o i fyny ar y craen ... a dringodd ar ben y craen ac eisteddodd ar y pen ac roedd yn gwrthod dod i ffwrdd ... ac wrth gwrs, gallen ei weld o ffenestr y llofft, felly roedden ni’n ... roedden ni’n tynnu lluniau ohono [y ddau’n chwerthin].