Pobl Conwy: Pat Rowley

sml-Pat RowleyPobl Conwy: Pat Rowley

Yn Llanrwst y mae Pat Rowley wedi byw ar hyd ei hoes, ac mae’r dref a’r hanes yn annwyl iawn iddi. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o lyfrau am y dref. Yma mae’n hel atgofion am yr afon, a’r effaith a gawsai arni pan fyddai’n dychwelyd wedi treulio amser oddi cartref: “…the river, it’s always moving, it’s never dull, so like Llanrwst it is always moving…”

Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.

Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain

Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

lrg-Pat Rowley
 
 

 

Transcript:

Allwch chi ddim mynd allan o Lanrwst heb groesi pont. Os dewch chi â’ch wyrion yma am y diwrnod, a’ch bod chi eisiau coffi, rhowch eich wyrion yn y sgwâr a dweud “reit, ceisiwch fynd allan o Lanrwst heb groesi pont’. Ac mi wnewch chi eistedd yno i gael eich coffi wrth iddyn nhw chwilio, a dwy awr yn ddiweddarach, byddan nhw’n dod yn ôl ac yn dweud eu bod nhw’n methu ei wneud …

… pont groca ydyw a dim ond … un car all fynd drosodd ar y tro. Felly’r hyn sy’n digwydd pan fydd car yn cwrdd â char arall ar y pen uchaf ydy ... y rheol hen ffasiwn ydy ... os mai chi sy’n cyrraedd gyntaf, chi oedd â’r hawl tramwy … ac felly un haf, aeth dau gar i’r pen uchaf, nid oedd yr un ohonynt yn fodlon ildio, roedden nhw yno’n cweryla. Daeth un person allan o’r car, aeth i’r car arall, tynnu’r agoriadau allan a’u taflu dros y bont ...

... Wrth gerdded ar hyd glan yr afon fan hyn, mae yna garreg ar y pen pellaf ac rwy’n hoffi eistedd yno ac edrych ar yr afon ...

... rwy’n cofio mynd i Fanceinion ac roeddwn i ar fy mhen fy hun fan hyn trwy’r trên, yn cario fy nghês dillad ac roedd gen i gôt goch amdanaf, ac roeddwn i’n mynd i ffwrdd o adref am y tro cyntaf, a gwnes i fynd ar y trên ar fy mhen fy hun; roedd fy mam a’m tad o Gae Person - doedd ganddyn nhw ddim car welwch chi. Newidiais drên yng Nghyffordd Llandudno, newidiais i’r trên yng Nghaer ac yn y diwedd roeddwn i’n mynd ar y bws o’r orsaf i’r neuaddau preswyl ym Manceinion ...

... ond teimlwn i’n dros dro iawn ym Manceinion, ac roeddech chi’n teimlo ‘dydw i ddim eisio mynd yno, ond rwy’n mynd i fynd adref ta beth’ ac felly llwyddais i oroesi ...

 ... Roeddwn i’n arfer dod adref ar y trên. Wrth ddod i fyny i ddyffryn Conwy ar y trên, byddai dagrau’n dechrau dod i’r llygaid wrth weld yr olygfa’n dod, a’r afon, fy afon I, ac felly roeddwn i’n teimlo lwmp yn fy ngwddf ac yn dechrau wylo ac wrth gwrs, roedd hynny am fy mod i’n dod adref ...

 ... oherwydd ch’n dod i lawr bryn Bodnant, ac roedden nhw’n arfer torri’r coed yno, ac rydych chi’n gweld yr afon a phont Tal-y-Cafn ac yn dweud, ‘o, rydw i’n dod adref ...

 ... roedd yr ymylon yn niwlog, oherwydd nid oedd mor finiog, roedd yn gysurus, wyddoch chi, yn hapus, aaa, rwy’n ddiogel fan hyn. Rwy’n hapus ac rwy’n adnabod pawb ac mae pawb yn fy adnabod i’ ...

 ... mae’r Afon, mae’n symud drwy’r amser, nid yw byth yn ddiflas, felly fel Llanrwst, mae’n symud o hyd. Mae ganddi orffennol, presennol ac mae ganddi ddyfodol, mae’n cadw symud i’r dyfodol, yn mynd trwy’r gorffennol a’r presennol. Ond mae’n sefydlog hefyd ...

 ... os byddwch chi’n sôn am Lanrwst wrth unrhyw un, byddan nhw’n dweud ‘o, yr afon, y bont, y llifogydd, y glaw. Ond dyna sut rydym yn wyrdd ...

 ... Rwy’n credu y dylai pobl wybod o ble maen nhw’n dod, y dref a hanes y dref ei hun, oherwydd mae gan bob tref ei hanes ei hun, gall fod yn gyffrous i rai pobl ac yn ddiflas i bobl eraill ...

 ... nid tref wag yw Llanrwst, nid tref heb enaid mohoni, pobl Llanrwst a’u straeon sy’n bwysig, oherwydd dyna sy’n rhoi bywyd i Lanrwst; mae’n rhoi cig ar yr esgyrn, os hoffwch chi ...

 ... mae’r dref hon yn llawn hanes: rydym wedi cael brwydrau yma, rydym wedi cael gorymdeithiau yma, rydym wedi cael brenhinoedd a breninesau yma, a dim ond Llanrwst yw hwn, Llanrwst fach ni, yng nghanol dim unman, rydym ni’n falch iawn o hyd ...

Pen y dudalen