Pobl Conwy: Martin Cawley
Pobl Conwy: Martin Cawley
Mae Martin Cawley wedi byw yn Llanrwst am y rhan helaeth o’i fywyd. Yn ei lencyndod roedd ei fryd ar lorïau, a phan oedd yn gweithio gyda Ffermydd Dyffryn Clwyd, gofynnodd i’w reolwr a fedrai gael lori i’w helpu wrth ddanfon cynnyrch. Oddeutu deng mlynedd yn ddiweddarach daeth cwmni Cawley Bros. i fodolaeth, gyda 25 o lorïau’n mynd ar hyd y ffyrdd.
Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.
Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain
Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

Transcript:
Mi es i ysgol gynradd Bro Gwydir, ac yna mi es ymlaen i’r ysgol ramadeg. Ond doeddwn i ddim yn hoff o’r ysgol o gwbl, felly mi adawais yr ysgol ramadeg pan oeddwn i'n bymtheg oed, a mynd i weithio i Vale of Clwyd Farms bryd hynny, Wynnstay ydyn nhw rŵan ’lly …
… yn Watling Street, oedd ‘gynnon nhw warws bach yn ‘fanno … ond trwy gydol fy amser yno, roeddwn i eisiau lori, dyna oeddwn i eisiau ’lly …
… roedd fy nhad yn gweithio i gwmni yn Llanrwst ‘ma. Huw Berry a chwmni ei dad, Wil Berry, siop fferins ar Heol Ddinbych oedd hi ac … roeddwn i’n gweld bryd hynny ei fod o’n gweithio bob munud o’r dydd a nos am ychydig iawn ’lly, a doeddwn i ddim eisiau gorfod gwneud hynny, felly'r unig ffordd o osgoi hynny oedd cael lori’n hun ‘lly … Siaradais efo’r rheolwr a, ‘Yes, you can have one’ medda fo …
… a dyna sut wnaethon ni ddechrau, efo un lori; ac wedyn prynu un arall, ac un arall ac ymhen dim roedd gennym ni … faint o loris oedd gynnon ni adeg hynny ‘dwch, pedair neu bump?
… ac oedd ‘gynnon ni ein hiard ein hunain lawr wrth Preswylfa, ar ffordd Tal y Cafn yn ‘fynna … roedd fy mrawd wedi ‘dŵad i mewn 'efo fi'r adeg hynny, ond wnaeth hynny ddim gweithio, ac …
… fe wnaethon ni gario ‘mlaen efo’r brawd ‘fengaf, fe ddechreuodd o yrru lorïau ac roedd hynny’n gweithio’n iawn … erbyn y diwedd, roedd ‘gynnon ni ‘bum lori ar hugain wyddoch chi …
… ’da ni bellach wedi eu gwerthu i gwmni o Carnforth, Border Aggregates, maen nhw’n dal i ddefnyddio’r loris yn ein lliwiau ‘Cawley Brothers’ ni …
… mae’n chwith bod heb y lorïau, ond mae’n braf gweld eu bod wedi cadw ein lliwiau, a’u bod nhw’n dal i fynd ‘lly …
… y gwaith caletaf wrth reswm oedd llwytho’r lori. Bulk ydi popeth erbyn hyn , mae craen neu lithren yn llwytho i chi mewn eiliadau, ac mae’n cael ei ail-fagio yn lleol, ond bryd hynny roedd popeth mewn bagiau, ac roedd yn rhaid llwytho’r lori ‘efo deg tunnell o flawd, a’u llwytho a’u tasu nhw i gyd yn ddiogel a rhoi carthen drostyn nhw ‘efo’r tywydd ac ati, roeddem ni’n cychwyn am dri o’r gloch yn y bore bryd hynny ‘lly ‘de, a doedd ‘na ddim tacograffau fel sydd mewn lorïau heddiw, roedd rhywun yn teithio ddydd a nos yn doedd, oedd oedd, roedd yn waith caled ‘lly ond ‘da ni wedi mwynhau bob munud ohono …