Pobl Conwy: James Curran

sml-James CurranPobl Conwy: James Curran

Brodor o Lanrwst yw James Curran, ac mae wedi troi’i law at sawl swydd yn ystod ei yrfa, gan gynnwys gweithio i Swyddfa’r Post ac mewn melin wlân. Am gyfnod bu’n ddyn tân, a byddai cloch fawr yn canu uwchben ei wely pan fyddai tân. James oedd yr ‘ymatebydd cyntaf’ gan mai ef oedd yn byw agosaf at yr orsaf, a byddai’n gorfod rhuthro i agor y drysau a pharatoi cyn i weddill y criw gyrraedd.

Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.

Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain

Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

lrg-James Curran
 
 

 

Transcript:

Cefais fy ngeni yn Heol Scotland, ym Mil Naw Tri Deg Un, ac roeddwn i yno tan Mil Naw Tri Deg Saith, Tri Deg Wyth, pan gafodd pob un ohonom ein symud i Gae Person, tai newydd sbon  … roedd cyflwr y tai ar Heol Scotland yn ofnadwy …

… roedd hi’n dlawd iawn iawn yno, doedd ‘na ddim toiledau yn y tŷ, roedd y tap wedi’i leoli y tu allan ar yr iard, roeddem yn golchi mewn bath tun o flaen y tân, gyda stôf haearn a grât tân Lowlan a bin wrth ei ochr i goginio, ond roedd rhaid coginio popeth ar hwnnw …

… nwy glo o’r gweithfeydd nwy oedd yn y llusern, roedd llygod mawr a chwilod ym mhob man, ac roedd hi’n waith diddiwedd i’r merched geisio cadw’r lle’n daclus ac i safon. Un peth oedd yn wir am bob un ohonynt oedd, er bod y tai wyddoch chi ... yn amlwg mewn cyflwr gwael, roedd stepen drws pawb yn sgleinio, ac roeddech chi’n eu gweld nhw yn y bore, roedd yn ‘bosib cael sglein du o’r enw Sebo, a’r brws, a’u defnyddio i wneud i’r stepen sgleinio. Bydden nhw’n gwneud hynny bob dydd ...

... petai ganddynt stepen tywodfaen, fydden nhw o garreg celyn a bydden nhw’n ei rhwbio gyda charreg arw i’w glanhau ...

... roedd y plant i gyd yn galw’r holl ferched a dynion yn ‘anti’ neu’n ‘yncl’; doedden nhw ddim yn perthyn, ond roedd pawb yn ‘anti hon’ neu ‘anti honno’ ac ‘yncl hwn’ ac ‘yncl hwnnw’ ...

 ... os oedd unrhyw un yn brin o fwyd, yn enwedig os oedd priodas ... arferai’r holl bobl roi cacennau ac ychydig o siwgr ac ychydig o de a rhyw frecwast priodas er mwyn i’r teulu beidio bod â chywilydd welwch chi, ond nid lletygarwch yn aml iawn. Ie, y lletygarwch, roedd pawb yn rhannu pob dim gyda’i gilydd.

... Roedd ysbryd cymdogol yn Heol Scotland, a phawb yn rhannu efo’i gilydd.

Pen y dudalen