Pobl Conwy: Gwyneth Roberts
Pobl Conwy: Gwyneth Roberts
Pan gaeodd Gwyneth Roberts ei siop teiliwr mewn hen dŷ cychod yn Nhal-y-cafn, roedd y siop wedi bod ar agor ers bron i 120 o flynyddoedd. Gwyneth oedd yr un olaf o sawl cenhedlaeth o’i theulu a fu’n rhedeg y siop, ac yma mae’n hel atgofion am weithio gyda’i thad cyn iddi gymryd yr awenau wedi iddo farw.
Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.
Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain
Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

Transcript:
Sied oedd o really yn cadw cwch a ddaeth o i dynnu fo ac addasu fo yn Tal y Cafn gin Thomas Owen. Wnaeth o addasu fo iddo fo ac oedd hwnna yn un naw pump dau. Fydda fy nhad yn mynd o gwmpas y ffermydd, gweld cwsmeriaid a’u mesur nhw a’u ffitio nhw a gwneud y gwaith yn y cwt yn parking yr hotel yn Tal y Cafn. Roedd o fatha dwy ystafell bach ac roedd dad yn gweithio yn y cefn ac yn torri allan yn y cefn a gwnïo efo machines a’r haearn a pethau yn y cefn ...
… roeddwn i’n helpu fy nhad pan oeddwn i’n hogan bach yn rhoi edau yn y nodwydd a pethau a gwneud rhesiad yn barod iddo fo fel bod gynno fo rhywbeth … edau yn barod i wneud y tackings pan oedd o’n gwneud y dillad …
… pan wnes i golli dad oeddwn i’n dweud ‘mi wnai drio am deg mlynedd ar ben fy hun’ ond wnes i tri deg o flynyddoedd …
… oedd na lot o gwestiynau, oedd pobl ddim yn credu bod na gymaint ac am bod nhw’n cael ei wneud iddyn nhw ynde. Oedd eisiau gwybod faint o botymau oeddwn nhw eisiau; tri botwm ‘ta dau ‘ta un, oedd eisiau pocedi yn syth ‘ta cam, a slits yn y tu ôl y fents ma, oedd eisiau un ‘ta dwy ‘ta … plaen? A faint o botymau oeddwn nhw eisiau ar y llewys a faint o bocedi oedd gynnon nhw eisiau tu fewn …
… O, dwi wedi cael amser braf iawn yno de, do … Dwi’n colli fo cos oeddwn ni’n cael cyfarfod cwsmeriaid a pobl yn dod yn ôl o flwyddyn i flwyddyn … o dan ni di nabod lot a di cyfarfod lot ynde, ie …