Pobl Conwy: Dennis Roberts
Pobl Conwy: Dennis Roberts
Mae’r cyn-bennaeth ysgol Dennis Roberts wedi byw ym Mhenmaenmawr ar hyd ei oes. Ym 1973 aeth ati i sefydlu Cymdeithas Hanes Penmaenmawr, sydd wedi mynd o nerth i nerth gan arwain at greu amgueddfa gymunedol. Pan oedd yn fachgen ifanc, bu tad Dennis yn ei annog i feithrin diddordeb mewn hanes lleol a darllen llyfrau.
Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.
Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain
Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

Transcript:
Un tro, mi ymwelais â … chartref Dylan Thomas yn ne Cymru. Mi es i’r Boathouse, mi gerddais ar hyd y llwybr, heibio garej, sied, ac yn fanno y bu’n ysgrifennu llawer o’i waith, ei farddoniaeth a’i lyfrau ac ati, a gallech edrych drwy’r ffenestr a gweld y ddesg wedi’i gosod o’i flaen
... a rhyw ddiwrnod, mi fydd gen i fy sied fy hun [Dennis yn chwerthin] a dim ond am ryw flwyddyn mae o wedi bod gen i, ond *chwerthin* wrth gwrs, mae’n llawn o deganau fy wyrion ac wyresau [chwerthin mawr] ...
... llyfrau fan acw, llyfrau di-ri, cannoedd o lyfrau; mae gennym lyfrau ym mhobman ...
... Fydda i ddim yn eu gwerthu nhw, mae rhai ohonyn nhw’n eithaf gwerthfawr wyddoch chi, [chwerthin] ond maen nhw yn y sied ...
... ’Dw i’n dal i ddarllen llyfrau, ac mae fy ngwraig yn dweud, ‘mae’n rhaid i ti ddechrau darllen ffuglen’, ond ‘dw i’n diflasu’n darllen am dditectifs ac ati, felly ‘dw i’n aml iawn yn troi yn ôl at lyfrau hanes, ac mewn gwirionedd, trwy ddarllen llyfrau, ‘dw i wedi dysgu fy hun i fod yn hanesydd ...
... Roedd fy nhad yn athro yn Llandudno, ac roedd o’n dod â llyfrau adref i mi byth a beunydd i’w darllen, llyfrau syml iawn, llyfrau lluniau, ond roeddwn i wrth fy modd yn darllen am y Rhufeiniaid a’r Groegiaid a’r Galiaid a’r Celtiaid ac yn y blaen, a phan es i’r ysgol ramadeg yn Llandudno, cefais yr hyn ‘dw i’n ei ystyried yn athro hanes ysbrydoledig, ym Mr Davies ...
... Serch hynny, doedd gennyf fawr o ddiddordeb yn yr hanes yr oedd yn ei addysgu. Pan ddylwn i fod yn ysgrifennu traethawd ar Hanes Ewrop yn llyfrgell yr ysgol, roeddwn i’n edrych ar lyfrau hanes lleol [chwerthiniad], yn yr hyn o lyfrau oedd yn y llyfrgell bryd hynny, a chefais fy ysbrydoli i ... ymddiddori’n fawr mewn hanes ...
... Er nad ydw i’n berson crefyddol, ‘dw i’n rhyfeddu at sut ddatblygodd Cristnogaeth yng Nghymru ...
... ’dw i’n hoffi’r cyfnod canoloesol hefyd ...
... Mewn gwirionedd, Prydain Oes Fictoria yw fy ngwir gariad, ac wrth gwrs dyna pryd y datblygodd Penmaenmawr fel tref, tref Fictoraidd ydi hi, ac ...
... ers y 1830au, mae gweithgarwch y chwarelwyr wedi lledu’r graig ar draws Prydain. Y peth ydi, pan fyddwch yn cerdded ym Manceinion, yn cerdded yn Lerpwl, yn cerdded yn Warrington, yn cerdded yn Huddersfield, pan fyddwch chi’n cerdded yn unrhyw le mewn unrhyw ddinas fawr, yn enwedig yng Ngogledd Orllewin Lloegr, rydych chi’n cerdded ar Benmaenmawr ...