Pobl Conwy: Betty Pattinson

Betty Pattinson sml

Pobl Conwy: Betty Pattinson

Roedd Betty Pattinson yn un o’r rhai olaf o blith y ‘Jac-dos’ (pobl a aned o fewn muriau tref Conwy), yn gyn-faer a hanesydd lleol annwyl i bawb yn y dref. Yn y cyfweliad hwn mae hi’n sôn am ei hymgyrch lwyddiannus i gael twnnel o dan Afon Conwy pan adeiladwyd yr A55.

Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.

Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain

Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

 

Betty Pattinson lrg
 
 

 

Transcript:

Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am hanes tan y 1950au i ddweud y gwir, pan ddywedodd Gwynfryn Richards, yr hen ddeon ym Mangor a oedd yn ficer yng Nghonwy wrtha i, “Betty, ‘da ni’n mynd i ffurfio cymdeithas hanesyddol, a chi fydd yr ieuenctid …

… Sef fi, ac roedd ganddynt fanciwr, gwleidydd, addysgwr ac roedd saith ohonom yn ystafell y plwyf yn eglwys Conwy …

… ac yna, clywais bobl enwog o bob cwr o Gymru yn siarad am Gonwy, ac fe gafodd hyn ddylanwad arna i. Roeddwn i’n byw mewn tref arbennig iawn, ac roedd angen ei diogelu …

… Pan [Betty’n chwerthin] benderfynon nhw roi’r bont ofnadwy yna wrth y castell, roedd yn rhaid imi frwydro yn ei herbyn …

… Roedd gan y bont yr oedden nhw’n bwriadau ei hadeiladu wrth ochr y castell byst gôl, ‘dw i’n eu galw nhw’n byst gôl oherwydd roedden nhw’n hyll. Byddai wedi difetha’r castell yn ogystal â dyffryn y Gyffin, ac roedd yn mynd o dan y mynydd ...

... pan wnes i roi’r gorau i’m swydd ran-amser fel ymchwilydd, bûm yn ymgymryd â misoedd o waith ymholi ynghylch Twnnel Conwy. Ac ar ddiwedd yr ymholiad, pan oedd pobl enwog o bob cwr o Gymru yn siarad o blaid Conwy ... enillon ni, enillodd y werin bobl ...

... ymddiswyddodd y maer a rhoi’r fraint i mi ar ran dinasyddion Aberconwy i dystio’r contract ar gyfer Twnnel Conwy’n cael ei arwyddo. Ac felly, adeiladwyd y twnnel.

... Hon yw’r dref gaerog orau yn Ewrop, un o’r goreuon, ac felly, mae’n rhan o dapestri cyfoethog ein treftadaeth Ewropeaidd ...

... rhaid i ni ddiogelu ei dyfodol oherwydd mae Conwy yn wahanol i bob ‘cyrchfan’ arall, mae pobl yn aml yn dweud, “o, faswn i wrth fy modd yn dod i Gonwy, mae mor wahanol! Mae ganddi siopau bach ... ac yn fy marn i, yr hyn sy’n hudol am Gonwy yw ei bod yn dref unigryw, ac mae’n rhaid i ni ddiogelu hynny am byth ...

Pen y dudalen