Pobl Conwy: Annette Evans
Pobl Conwy: Annette Evans
Roedd Annette yn bennaeth Ysgol Gynradd Bodlondeb am wyth mlynedd rhwng 1988 a 1996. Mae’n cofio hebrwng plant wrth groesi’r ffordd i’r ysgol. Sonia Annette am ei hatgofion o’r synau yn yr hen ysgol, yr arogleuon a’r golygfeydd. Ar safle’r hen ysgol yr adeiladwyd y Ganolfan Ddiwylliannol newydd.
Cliciwch ar y triongl isod i wrando ar y sain.
Cliciwch yma i ddarllen trawsgrifiad o’r sain
Dychwelyd at y rhagarweiniad i ‘Pobl Conwy’

Transcript:
… Wnesh i wneud gwaith llanw yn Ysgol Bodlondeb, ac wedyn dilyn gyrfa fel athrawes fro, yn brifathawes yn Ysgol Dolgarrog, i fyny’r Dyffryn, sydd erbyn hyn wedi dymchwelm, ac wedyn wnesh i’n brifathrawes yn Ysgol Boldondeb fel y cylch yn gyflawn mewn fordd yn de …
… Oedd yr hapusrwydd ag yr agosatrwydd oedd o yna cyn i mi fynd yna, rhaid mi ddweud, mi fydd gyn y brifathrawes a’r staff yn amlwg wedi cydweithio’n dda a pobl ddim eishau symyd o na. So mae hwnna yn beth da tydi os ydi os di staff eishau aros yn yr un lle yn de …
… oedd o’n deulu, ac dwi’m yn gwybod, ella bod i’n rhymantys ac yn yn meddwl bod na rhywbeth yn yr adeilad, i mi mynd twy’r giatiau trwm haearn; wnaeth hwnna wneud I mi feddwl ‘o ia cenedlaethoedd o blant oedd wedi cerdded trwy’r giatiau na’, a’r stepiau wedyn a hoel traed wedi gwisgo yr garreg …
… a a wedyn yr cyntedd bach, swyddfa bach, digon i neud gwaith swyddfa dwdw i ddim yn person swyddfa I ddweud y gwir, oedd well gen i fod gyda’r plant …
… ond mi oedd na oedd na le fyna lle oedd yr ffon ar pethau gwenyddol (?) yn cael ei cadw, i mewn i’r neuadd, oedd o’n plant yn cael bwyd, oeddan ni’n cael gwasanaethau, cyngherddau, ac yn y pen draw i’r neuadd ‘stafell Derbyn, ochr arall oedd yr gegin, oedd o’n reit braf bod yn y’r stafell Derbyn oherwydd weithiau mae ogleuon neish iawn yn dwad o na …
… A pethau dwi’n cofio oedd yr gogyddes yn gwneud meringue ychanegol i’r staff, Mrs Grace …
… y gogyddes yr adeg hynny; wrth gwrs y dyddiau yma na fasa nhw yn caniatau hynna ond oeddwn ni’n edrych ‘mlaen i hynna pan oedd na rhyw gacen afal neu gacen meringue ar gael …
… oedd na waith caled yn digwydd, a rhaid mi ddweud yr plant yn pwysicach na bob dim. Oedd yr staff yn garedig hefyd yn de, ac mae hwnna bwysig..
… mae na lot o blant yn dwad o gefndiroedd ella bod pethau ddim mor dda yn yr cartref beth bynnag oedd yr rheswm wel oeddwn nhw’n eu gallu dwad i’r ysgol a gwybod bod bod nhw’n saf, bod nhw’n hapus ac cael yr gofal gorau fasa nhw …
… i ddweud y gwir, wrth edrych yn ol mi oedd o’n lle hapus iawn I’w fod, ond hefyd bod ni yna er bydd y plant de oedd hwnna uwch ben bob dim swn i’n dweud …