Cyn-orsaf bad achub Aberystwyth
Cyn-orsaf bad achub Aberystwyth
Codwyd yr adeilad hwn yn 1885 yn gartref i fad achub y dref am £250. Byddai’r bad yn cael ei lusgo i’r traeth ar gefn treiler i’w lawnsio. Mae’r hen lun (trwy ganiatâd yr RNLI) yn dangos y bad achub hunan-unioni ON 562 John and Naomie Beattie o flaen yr orsaf. Cadwyd y bad yn Aberystwyth o 1906 tan 1932. Mae rhagor am hanes badau achub Aberystwyth ar ein tudalen am yr orsaf bresennol yn yr harbwr.
Wedi i’r RNLI adael yr hen orsaf, defnyddiwyd yr adeilad gan y BBC yn stiwdio ddarlledu o 1990 tan 2000. Cyn hynny roedd ganddyn nhw stiwdio seml yn Cambrian Chambers. Gan fod rhagor o le a rhagor o offer yn hen orsaf y bad achub roedd y gorfforaeth yn gallu darlledu rhaglenni cyfan o Aberystwyth. Dyma lle’r oedd y ffermwr a’r darlledwr Dai Jones Llanilar yn recordio ei raglen Ar eich Cais (cerddoriaeth ar gais gwrandawyr Radio Cymru). Roedd yn ogystal yn ganolfan i’r newyddiadurwyr Tom Evans a John Meredith.
Wedi i’r BBC ymadael â’r safle defnyddiai Cyngor Sir Ceredigion yr adeilad fel stordy cyffredinol. Yn 2020 daeth yn storfa ar gyfer Archifau Ceredigion. Trwy gymorth grant o du llywodraeth Cymru addaswyd yr adeilad er mwyn sicrhau bod y tymheredd a’r lleithder y tu mewn yn cael eu rheoli.
Cod post: SY23 2HP Map