Hen fynedfa i Ddoc Gorllewinol Bute, Caerdydd

Aeth miliynau o dunelli o lo rhwng y waliau cerrig crwm y gallwch eu gweld yma. Nhw oedd y fynedfa i Ddoc Gorllewin Bute, y gwnaeth ei agoriad yn 1839 ysgogi twf Caerdydd i fod yn borthladd allforio prysuraf y byd. Mae'r llun o c.1902 yn dangos llong yn dod i mewn.

Photo of Bute West Dock entrance c.1902Cludwyd glo a haearn trwy Gaerdydd ar hyd Camlas Sir Forgannwg o'r 1790au. Wrth i gloddio am lo ehangu’n gyflym, roedd adeiladu prif reilffordd y Taff Vale o Abercynon i Gaerdydd (a agorwyd ym 1840) yn cyd-daro â chloddiad y doc newydd.

Hyrwyddwyd y doc gan Ail Ardalydd Bute. Roedd yn berchen ar lawer o dir Caerdydd, gan gynnwys Castell Caerdydd a’r ‘Cardiff Moors’ – y safle a ddewisiodd ar gyfer y doc a’i warysau. Gallai 18 erw o ddŵr y doc ddal 300 o longau ar y tro. Roedd ganddi fwy na 1.8km o lanfeydd ar gyfer clymu llongau i'w llwytho a dadlwytho. Y llong fasnachu gyntaf i fynd i mewn i'r porthladd, o flaen tyrfaoedd llon a salfau magnelau, oedd y Celerity, a oedd yn perthyn i fasnachwr coed.

Aerial photo of Bute West Dock in 1948Byddai llongau a fyddai'n cyrraedd yma yn mynd trwy loc môr i fynd i mewn i fasn hirgrwn mawr (c.1.5 erw) i aros i fynd drwy'r prif loc i mewn i'r doc. Roedd y dŵr y tu allan i’r loc môr yn codi a disgyn gyda’r llanw cyn i Forglawdd Bae Caerdydd gael ei adeiladu yn y 1990au.

Roedd prosiect adeiladu’r doc yn cynnwys cloddio camlas gyflenwi o Blackweir. Roedd dŵr y gamlas hefyd yn cyflenwi cronfa ddŵr 15 erw (i’r de o’r man lle saif Neuadd y Sir heddiw) a oedd yn fflysio mynedfa’r doc ar llanw isel, i atal siltio. Daeth y doc i gael ei adnabod fel Doc Gorllewinol Bute ar ôl i Ddoc Dwyreiniol Bute (45 erw) agor yn y 1850au.

Daeth hyd yn oed y capasiti ychwanegol hwnnw yn annigonol, ac adeiladwyd dociau eraill ymhellach i'r dwyrain.Yn 1896 goddiweddodd Caerdydd Efrog Newydd fel porthladd prysuraf y byd ar gyfer allforio (gan anfon 6.9 miliwn o dunelli i 6.5 miliwn Efrog Newydd).

Caerdydd oedd ail borthladd prysuraf Prydain o ran mewnforion, ar ôl Llundain. Mae'r awyrlun, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos basnau'r ddau ddoc Bute yn 1948. Nid oedd angen Doc Gorllewinol Bute mwyach ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Llenwyd y doc a defnyddiwyd y safle ar gyfer tai a mannau gwyrdd i'r dwyrain o Rodfa Lloyd George. Mae topiau waliau'r basn bellach yn amlinellu Roald Dahl Plass, man agored cyhoeddus.

Gallwch weld llun o fynedfa’r doc ar ein tudalen am Adeilad y Pierhead, a godwyd ym 1897 rhwng mynedfeydd doc Bute. Ymadawodd agerlongau pleser o'r pontynau gerllaw.Ymadawodd agerlongau pleser o'r pontynau gerllaw.

Cod post: CF10 5BZ    Map

button-tour-dock-feeder Navigation up stream button