Hen gartref awdur rhyfel, Bangor

button-theme-powY tŷ mawr hwn, Menaidale, oedd cartref Elias Henry Jones. Roedd ei lyfr am ei gyfnod fel Carcharor Rhyfel Twrcaidd yn werthwr gorau yn y 1920au.

Ganwyd Elias yn fab hynaf i'r arloeswr addysg Syr Henry Jones, Elias yn Aberystwyth ym mis Medi 1883 a mynychodd Ysgol Babanod Glanadda, Bangor, ac Ysgol Bentref Llangernyw. Aeth i'r ysgol yn Glasgow tra roedd ei dad yn Athro Athroniaeth Foesol ym mhrifysgol y ddinas. Aeth Elias i brifysgol yn Glasgow, Grenoble a Rhydychen.

Photo of E H JonesPasiodd arholiad Gwasanaeth Sifil India a daliodd apwyntiadau ardal arall yn Burma 1906-1915. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd mewn catrawd magnelau ym Mesopotamia, gan ddod yn swyddog comisiwn yn y pen draw. Cipiwyd ef wrth ildio Kut-el-Amara, Twrci, a gorfodwyd iddo gerdded 700 milltir i wersyll carchar yn Yozgad.

Mae ei lyfr The Road to Endor yn disgrifio sut y cynlluniodd ef a Lieut CW Hill (swyddog yn yr Awyrlu Awstralaidd) sut i ddianc. Defnyddiodd y pâr fwrdd Ouija cartref i wau plot cywrain, gan honni eu bod yn gyfryngau a allai arwain eu cahawyr i drysor wedi ei gladdu ar arfordir Môr y Canoldir, lle roeddent yn bwriadu dianc am Cyprus.

Methodd y cynllun, ond parhaodd y swyddogion gyda twyll gwallgofrwydd am chwe mis, i gael dychwelyd ar sail feddygol. Bu bron i Elias (ar y dde) ladd ei hun mewn ymgais ffug i ladd ei hun yng ngwanwyn 1918. Cafodd ef a Lieut Hill eu cymeradwyo yn y pen draw ar gyfer cyfnewidfa garcharorion, gan gyrraedd Prydain ddeufis cyn i'r rhyfel ddod i ben.

Yn 1919, daeth yn ysgrifennydd i'r Arglwydd Curzon ar Bwyllgor y Dwyrain Canol, yr oedd Winston Churchill yn aelod ohono.

Ym mis Ebrill 1922 daeth i fyw i Fenaidale gyda'i wraig, Mair, a'u pedwar plentyn – dim ond i gychwyn am Burma eto y diwrnod canlynol. Roedd un o'i blant yn ei gofio, yn ei henaint, yn cerdded allan o'r drws ffrynt tra bod ei mam yn chwarae "y dôn o Rusticana, sef eu tiwn nhw" ar y piano.

Yn 1924, ymddeolodd Elias o Wasanaeth Sifil India a dychwelodd i Bangor. Roedd yn mwynhau pysgota a saethu yn Ardal y Llynnoedd ac Eryri gyda'i feibion. Yn 1928 cafodd ei ethol i Gyngor Tref Bangor, apwyntiwyd ef yn aelod o gyngor prifysgolion Cymru a Gogledd Cymru, a bu'n dysgu economeg a gwyddor wleidyddol yng Ngholeg Harlech.

Yn 1933 daeth yn ysgrifennydd a chofrestrydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, er ei fod eisoes yn eistedd ar dros 60 o bwyllgorau ar gyfer gwaith cyhoeddus gwirfoddol!  Bu farw yn 59 oed ym mis Rhagfyr 1942, 2½ mlynedd ar ôl i'w fab Arthur gael ei ladd ar wasanaeth milwrol (mae ein tudalen yng nghôf Arthur yma).

Cyn marw, gofynnodd am "ddim blodau a dim ffwdan" a bod unrhyw un fyddai'n rhoi torchau yn "arbed eu harian a’i roi i Goleg Harlech i wneud y llwybr yn haws i ryw fachgen tlawd".

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Ffrynt Cartref, Llandudno, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL57 2BH    Gweld Map Lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button