Corlan Tyddyn Grasod, Llangelynnin
Mae’r gorlan aml-gell hon yn un o lawer yn ardal y Carneddau, Eryri, lle mae defaid o lethrau’r mynyddoedd yn cael eu didoli sawl gwaith y flwyddyn. Os ydych chi newydd sganio’r cod QR ar y postyn cyfeirbwynt, cerddwch tua 100 metr i’r de i gael golygfa ar draws y gorlan.
Mae’r gorlan 316 metr uwchlaw lefel y môr ac fe’i henwyd ar ôl Tyddyn Grasod, tyddyn sydd bellach yn adfeilion tua 50m i’r gogledd o’r gorlan. Tynnwyd y llun gan Walter Harris tua 1966. Gwelir y llun yma trwy garedigrwydd Clwb Camera Conwy.
Mae cyfran helaeth o’r Carneddau yn dir pori comin heb ei amgáu, lle mae defaid o wahanol ffermydd yn cymysgu â’i gilydd. Mae ffermwyr yn cydweithio i gasglu’r holl ddefaid ym mis Gorffennaf i’w cneifio, mis Medi ar gyfer gwahanu ŵyn, a mis Hydref/Tachwedd i ddod â’r defaid i dir is ar gyfer y gaeaf. Yn hyn o beth mae'r corlannau yn strwythurau cymunedol.
Mae gan gorlan Tyddyn Grasod 13 o gelloedd bach, wedi'u grwpio o amgylch cell gasglu siâp lletem. Fe'i hadeiladwyd gan ddefnyddio cerrig a oedd ar gael gerllaw. Mae hen fapiau yn cofnodi chwarel ger y gorlan.
Ym mhob crynhoad, mae ffermwyr a chŵn defaid yn tywys y defaid i'r gell gasglu. Mae ffermwyr yn defnyddio’r marciau paent ar gefnau’r anifeiliaid i adnabod y defaid i’w didoli, ond os oes amheuaeth gallant wirio’r clustnodau (toriadau yn y clustiau sy’n unigryw i bob fferm). Mae'r defaid yn cael eu cyfeirio trwy'r tyllau defaid - tyllau yn y waliau mewnol - i'r gell lai a neilltuwyd ar gyfer pob fferm. Mae defaid nad ydynt yn perthyn i unrhyw un o'r ffermwyr lleol yn cael eu dychwelyd i'w perchnogion gan y prif fugail, neu ‘setiwr’. Mae'r enw Cymraeg yn deillio o'r gair escheater Saesneg.
Corlan yw’r enw cyffredin yn Gymraeg, ond yn y Carneddau fe’u hadwaenir yn gyffredinol fel buarthau. Mae corlannau hynaf y Carneddau yn dyddio o'r 18fed ganrif, pan ddechreuodd ystadau mawr ac unigolion cyfoethog amgáu'r tir comin. Roedd defaid yn cymryd lle gwartheg fel y prif anifeiliaid pori ar y Carneddau gan eu bod yn fwy proffidiol, yn enwedig pan gynyddodd y galw am wlân a chig defaid yn ystod rhyfeloedd Napoleon 1800-1815.
Gyda diolch i Nigel Beidas o Cofnodi Corlannau, ac i Glwb Camera Conwy
Cyfeirnod grid: SH 744746 Map
Gwefan Cofnodi Corlannau – manylion a lluniau buarthau'r Carneddau
![]() |
![]() ![]() |