Chwarel Trefor

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio o dan yr hen inclein rheilffordd a gludai cerrig o chwarel 'Y Gwaith Mawr'.

View of Trefor quarry c.1885

Mae’r garreg leol yn debyg i wenithfaen, ac yn cynnwys porffyrit a chwarts. Cafodd ei thynnu'n fasnachol o ochr ogleddol Yr Eifl o'r 1840au a’i llwytho i longau bychain ar y lan gyfagos.

Ehangodd y chwarela yn y 1850au o dan berchnogion newydd. Adeiladodd y Welsh Granite Company bentref newydd Trefor – a enwyd ar ôl rheolwr y gwaith Trefor Jones. Agorodd y cwmni ail chwarel ar ochr y bryn a gosod traciau rheilffordd gul. Roedd wagenni a oedd yn disgyn ar yr inclein newydd ynghlwm wrth gebl, fel bod eu pwysau'n tynnu wagenni gwag i fyny ar y trac cyfochrog.

O droed yr inclein, ar ymyl y pentref, roedd wagenni'n cael eu tynnu gan geffylau ac yn ddiweddarach gan bŵer stêm trwy'r caeau i harbwr Trefor. Roedd gweithdai chwarel wrth droed yr inclein. Roedd trac byr o'r fan honno yn caniatáu dosbarthu glo a mewnforion eraill i'r pentref ac i odyn galch.

Photo of Trefor quarry workers c.1875

Ffynnodd y galw am wenithfaen gan bod angen setiau ar gyfer strydoedd newydd mewn trefi diwydiannol. Ar ôl newid perchnogaeth yn 1864, agorwyd trydydd chwarel yn Y Gwaith Mawr a datblygwyd yr harbwr er mwyn llwytho lllongau mwy o faint. Mae'r lluniau gan John Thomas, trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dangos gweithwyr yn y chwarel tua 1875 a golygfa o'r chwarel a'r llethr tua 1885.

Yn 1902, defnyddiodd rheolwr y chwarel Augustus Wheeler drydan i gynnau "ffrwydrad enfawr". Roedd y ffrwydron wedi'u pacio mewn twneli. Adroddwyd bryd hynny fod y chwarelwyr yn ennill cyflogau uchel, ond roedd y galw am setiau yn lleihau. Yn ystod pedwar mis olaf 1907, collodd 300 o ddynion eu swyddi yn Y Gwaith Mawr.

Cymerodd y teulu Darbishire, a oedd yn berchen ar chwareli ym Mhenmaenmawr a Nantlle, yr awenau yn 1911 a dod o hyd i farchnadoedd newydd ar gyfer y garreg. Codwyd adeilad newydd yn gartref i lifiau a pheiriannau caboli ar gyfer gwneud eitemau addurniadol. Yn 1913 llithrodd glaswelltir i'r gogledd o'r chwarel i'r môr dros sawl diwrnod, wedi'i wthio gan "bwysau enfawr" gwastraff chwarel ar ochr y bryn.

Croesawodd y rheolwr gyfarwyddwr, y Cyrnol Charles Darbishire (a fu gynt yn aelod o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru) ymgyrch recriwtio ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf gan Gorfflu Byddin Cymru yn Nantlle a Threfor ym mis Ionawr 1915. Saith mis yn ddiweddarach, cafodd wybod bod rheolwr ei chwarel, yr Uwchgapten Augustus Wheeler, wedi cael ei ladd mewn brwydr yn Gallipoli, Twrci, gan adael gwraig a phedwar o blant.

Caeodd y chwarel yn 1971 ond fe'i defnyddiwyd ar raddfa fach yn ddiweddarach, gan gynnwys ar gyfer cerrig ar gyfer y gamp o gyrlio.

Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button