Caffi a golygfan y tollborth, ger Glyndyfrdwy
Mae'r caffi hwn, mewn cilfan yr A5 ger Glyndyfrdwy, yn cymryd ei enw o'r tollborth a oedd unwaith yma. Y goedwig fechan y tu ôl i'r caffi yw Tollgate Wood. Defnyddiwch y llun isod i nodi’r tirnodau lleol.
Casglwyd tollau gan yrwyr cerbydau a chertiau gan y toll-geidwad a oedd yn byw yn y bwthyn sydd wedi'i gadw'n dda ychydig i'r dwyrain o'r caffi. Sylwch ar y ffenestri onglog bob ochr i'r drws ffrynt, lle gallai'r ceidwad wylio am gerbydau tra'n aros yn gynnes ac yn gysgodol y tu mewn.
I'r dwyrain o'r fan hon mae'r A5 yn disgyn yn raddol i Llangollen - enghraifft wych o sut y gosododd Thomas Telford y ffordd trwy dir bryniog er mwyn osgoi blino'r ceffylau a dynnai'r cerbydau. Gallwch weld crair arall o gyfnod Telford – carreg filltir – ym mhen gorllewinol pellaf y gilfan hir. Sylwch sut roedd ‘Llangollen’ yn her i’w ffitio i mewn i led safonol cerrig milltir yr A5!
Gweler isod ein llun o'r olygfa o'r gilfan gyferbyn â'r garreg filltir gyda thirnodau wedi'u nodi ac esboniad o’r enwau. O'r gilfan honno efallai y byddwch yn digwydd gweld trên stêm yn mynd ar hyd Dyffryn Dyfrdwy islaw. Roedd y rheilffordd yn rhan o lwybr ar draws Gogledd Cymru o Rhiwabon i'r Bermo a gaeodd yn 1964. Erbyn hyn mae'n darparu teithiau golygfaol o Langollen i Gorwen.
Cod post: LL21 9HW Gweld Map Lleoliad
![]() |
![]() ![]() |
Troednodiadau: Y nodweddion a welir
Mae'r llun isod yn dangos yr olygfa o'r gilfan tua'r dwyrain ger Caffi’r Tollborth.
Mae'r ffermdy yn Rhydonnen Uchaf yn dyddio o'r 17eg ganrif, ac estynnwyd yn 1716. Mae Rhydonnen Isaf wedi'i guddio gan y coed i'r dde.
Enw gwreiddiol Moel Morfydd oedd Moel y Morwydd (‘bryn moel y coed mwyar brith [mulberry]’). Dros amser cymerwyd mai Morwydd oedd Morfydd, enw personol benywaidd.
Ar Foel y Gaer mae carnedd gladdu fawr ar y copa yn dyddio o Oes yr Efydd (2300CC i 1200CC). Adeiladwyd bryngaer yno yn Oes yr Haearn (1200CC i 74AD).
Mae Moel y Gamelin yn golygu ‘bryn moel’. Yr elfennau yn Gamelin yw cam (‘troellog’) ac elin (sy'n dynodi tro sydyn mewn ffordd neu afon neu siâp e.e. penelin), ond mae'n debyg yma yn cyfeirio at gyfuchliniau'r bryn.
Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Cyfieithiad gan Gwyndaf Hughes