Eglwys Sant Pedrog, Llanbedrog

Eglwys Sant Pedrog, Llanbedrog

llanbedrog_church_east_window

Mae’n debyg fod hanes addoliad Cristnogol yn yr ardal hon yn ymestyn yn ôl i’r 6ed ganrif, pan ddaeth yr offeiriad Cernywaidd Sant Pedrog i ledaenu’r Efengyl yng Nghymru. Mae enw’r pentref yn gyfuniad o enw’r sant a “llan” sef tir cysegredig wedi ei amgáu.

Mae Eglwys St Pedrog wedi’i henwi mewn cofnodion a luniwyd ym 1254, ac mae llawer o’r adeilad sy’n bodoli heddiw yn ganoloesol. Mae’r ffenestr liw yn yr oriel orllewinol yn nodwedd o’r 15fed ganrif. Cafodd yr eglwys ei hymestyn yn y 15fed neu'r 16eg ganrif a'i hadnewyddu yn oes Fictoria, pan ychwanegwyd y tŵr.

Ar y wal allanol, islaw ffenestr ddwyreiniol yr eglwys, gallwch weld arfbeisiau teulu Love Parry o Fadryn. Rhoddwyd yr enw cyntaf anarferol “Love” i genedlaethau lawer o feibion, gan ddechrau gyda Love-God Parry, a aned yn 1654. Ei dad oedd Geoffrey Parry o Gefn Llanfair (i'r gogledd o Lanbedrog), Piwritan a swyddog seneddol yn y fyddin yn y Rhyfel Cartref.

Priododd ŵyr Love-God, Love Parry (1720-1778) â’r teulu cyfoethog o Fôn a oedd yn berchen ar stad Madryn (ger Llanbedrog), lle yr ymsefydlodd.

Mae ffenestr ddwyreiniol yr eglwys (a welir yn y llun) yn gofeb i Syr Love Jones-Parry o Fadryn (1781-1853). Bu ef am gyfnod byr yn AS dros Horsham, Sussex, ac yn ddiweddarach dros Bwrdeistrefi Caernarfon. Fel swyddog yn y fyddin, helpodd i amddiffyn tiriogaeth Canada yn rhyfel 1812-1814 rhwng y DU ac UDA. Yr oedd yn Is-gadfridog pan fu farw ym Madryn.

Roedd gan ei weddw Elizabeth gasgliad celf mawr. Yn fuan wedi ei farwolaeth, adeiladwyd Plas Glyn-y-Weddw – yn agos i’r eglwys – i gartrefu’r casgliad. Dyma oriel gelf hynaf Cymru erbyn hyn. Cliciwch yma am ein tudalen we amdano.

Bu mab Syr Love, Syr Thomas Love Jones-Parry, yn helpu i baratoi ar gyfer y Wladfa ym Mhatagonia (Ariannin), lle mae dinas o’r enw Puerto Madryn a stryd o’r enw Love Parry i’w chael yn Nhrelew.

Mae'r ffenestr ar ochr ogleddol corff yr eglwys yn gofeb i drigolion lleol gollodd eu bywyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n darlunio maes brwydr, gyda Iesu Grist ac archangel uwchben. Mae enwau'r rhai a gollwyd yn y rhyfel wedi'u harysgrifio ar y sil.

Collodd rheithor Llanbedrog, y Parch Henry Jones Manley, ei unig fab yn y rhyfel. Bu farw Capten George Manley, o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ym mis Tachwedd 1917 ac mae wedi’i gladdu ym mynwent rhyfel Beersheba. Mae un o ffenestri'r eglwys yn gofeb iddo.

Gyda diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad

Cod post: LL53 7TT    Map

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button