Man cychwyn ras yr Wyddfa, Llanberis

Man cychwyn ras yr Wyddfa, Llanberis

Photo of Dave Francis winning the first Snowdon Race

O’r maes chwarae ger Y Ganolfan y cychwynnir y ras yn flynyddol. I’r helw mae’r daith i fyny’r Wyddfa yn un flinedig ond gwerth chweil a chymryd y diwrnod, ond mae’r rhedwyr mynydd yn llwyddo ei gwneud ond ychydig dros awr!

Ym mis Mai 1976 fe gynhigiodd Ken Jones o Lanberis o gael ras o’r pentref i gopa’r Wyddfa (1,085 metr) ac yn ôl. Gwnaed trefniadau brys ac ar Sadwrn 19 Gorffennaf 1976 cychwynnodd grŵp bach o redwyr o du allan i gaffi Pete’s Eats. Llwyddodd Dave Francis o Fryste ddod dros y llinell orffen ymhen 1 awr 12 munud a 5 eiliad – mae’r llun uchod yn dangos ei orffen.

Symudwyd y pwynt cychwyn yma yn 1977. Daeth y ras i sylw’r cyfryngau a chyn hir rhaid oedd cyfyngu’r niferoedd fel mater o ddiogelwch.

Photo of Private Pezzoli, Kenny Stuart and Fausto Bonzi on Snowdon

Gwobrwywyd Kenny Stuart o Cumbria a’r record yn 1985 gyda’r amser o awr, dau funud a 29 eiliad. Yn 1993 enillodd Carol Haigh o Orllewin Swydd Efrog gyda’r amser o awr, deuddeg munud a 48 eiliad.

1980 oedd y flwyddyn gyntaf i’r Eidalwyr ymuno gan gynnwys Privato Pezzoli yr enillydd. Arweiniodd hyn at gwlwm rhwng rhedwyr Ras yr Wyddfa a Trofeo Vanoni, yn Morbegno, Lombardy. Arweiniodd hyn at gefeillio rhwng clwb athletau CSI Morbegno a Rhedwyr Eryri. Ymhellach, gefeilliwyd pentref Llanberis a Morbegno mewn seremonïau a gynhaliwyd yn y ddwy wlad.

Yn y llun isaf gwelir tri rhedwr ar yr Wyddfa: Privato Pezzoli, Kenny Stuart o’i ôl ac yna Fausto Bonzi. Fe enillodd y tri yma’r ras ar wahanol flynyddoedd.

Pandemig Cofid-19 rwystrodd cynnal ras 2020 a 2021.

Gyda diolch i Ken Jones, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL55 4UR    Gweld Map Lleoliad

Gwefan Ras Yr Wyddfa



LON LAS PERIS Tour label Navigation blank buttonbutton_nav_5W-EW