Safle damwain awyren Almaenig, ger Abergwyngregyn

button-theme-pow

Safle damwain awyren Almaenig, ger Abergwyngregyn

Ddydd Llun y Pasg 1941 fe darodd bomiwr o’r Almaen daro i mewn i Llwytmor, gan anafu tri aelod o’r criw a lladd un awyrennwr. Crogwyd un o’r goroeswyr yn ddiweddarach am lofruddio cyd-garcharor rhyfel.

Llwytmor yw'r mynydd y gallwch ei weld i'r de-de-ddwyrain o'r maes parcio yng Nghwm Anafon. Fe darodd yr Heinkel 111, a oedd a’i chanolfan yn Nantes yn Ffrainc, yno ar ôl cymryd rhan mewn cyrch bomio efo’r bwriad o ddinistrio’r cludwr awyrennau HMS Illustrious yn iard long Furness, Barrow, lle roedd rhagchwilio y noson flaenorol wedi dod o hyd i’r llong.

Llwythwyd y awyrennau bomio yn llawn â bomiau tyllu-arfwisg a thanwydd ar gyfer y daith gron 1,930km (1,200 milltir). Pan gyrhaeddon nhw dros Barrow, doedd y criwiau ddim yn gallu gweld y llong a chyfarfon nhw â storm o fwledi o ynnau gwrth-awyrennau.

Lladdodd y ddamwain ar Llwytmor y peiriannydd, Josef Bruninghausen. Cafodd y tri aelod arall o’r criw eu taflu’n glir ac arhoson nhw ar ochr y mynydd tan y wawr, pan wnaethant benderfynu y dylai un ddisgyn y mynydd i ddod o hyd i gymorth.

Yn ‘The Rest’, bwthyn ger Abergwyngregyn, roedd Marion Baxter yn paratoi brecwast pan glywodd cnoc ar y drws. Daliodd Kurt Schlender, gweithredwr system diwifr yr awyren, ei ddwylo uwch ei ben a cheisio dweud wrthi, yn Saesneg toredig, fod ei awyren wedi disgyn. Tra bu Mr Baxter yn gwarchod yr awyrennwr, gyrrodd ei wraig i'r pentref a galw am gymorth gan yr heddlu a'r Gwarchodlu Cartref lleol. Cyfarwyddwyd Kurt Schlender i fynd â'r awdurdodau i safle'r ddamwain. Gosodwyd corff y peiriannydd ar stretsier a'i gario oddi ar y mynydd.

Ar ôl triniaeth mewn ysbyty, daliwyd y tri goroeswr mewn gwersylloedd carcharorion rhyfel ger Oldham ac yn ddiweddarach yng Nghanada. Tra yng Nghanada, daeth Bruno Peronowski, yr arsylwr ar yr awyren Almaenig, yn isel ei ysbryd ar ôl dysgu am farwolaethau ei wraig a'i ferch pan feddiannodd byddin Rwsia eu tref yn Nwyrain Prwsia. Yn 1946 fe'i cafwyd yn euog o lofruddio cyd-garcharor o'r Almaen a oedd, yn ei farn ef, yn Gomiwnydd gyda chydymdeimlad Rwseg. Cafodd ef a dau garcharor arall eu crogi am y drosedd.

Gyda diolch i Adrian Hughes, Amgueddfa Home Front, Llandudno

Map