Safle damwain cwch 1899, Pwllheli

Safle damwain cwch 1899, Pwllheli

Cafodd naw plentyn a thri o rieni o bentref chwarel lechi Dinorwig eu boddi wedi i gwch droi drosodd wrth Marian y Môr, Pwllheli, ym 1899. Rhan oedden nhw o wibdaith Ysgol Sul fawr o gymunedau yn ardal Llanberis ar ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf.

Old photo of South Beach, Pwllheli

Aeth rhai o'r cwmni i ymweld â'r promenâd a oedd newydd gael ei ddatblygu ym Marian y Môr, a welir yn yr hen ddarlun trwy garedigrwydd Rhiw.com.  Wedi cyrraedd yno trefnodd Ellen Thomas, un o'r mamau, ostyngiad o 50% am daith awr mewn cwch rwyfo i dri oedolyn - hi, ei phriod Owen a'i chymydog John Hughes - a'u chwe phlentyn. Y pris oedd 3 swllt yr un. Wedi iddyn nhw gyrraedd y cwch, ymunodd tri phlentyn arall â nhw, gan godi cwestiynau'n ddiweddarach am orlwytho.

Ceisiodd y cychwr Robert Thomas, 18 oed, droi'r cwch ar ôl rhyw hanner awr, pan oedden nhw rhyw 1.5km (milltir) o'r lan gyferbyn â Gwesty Marian y Môr. Tarawodd y tonnau yn erbyn y starn a bloeddiodd Johnny mab John Hughes ar ei dad fod dŵr yn dod i'r cwch yr ochr honno. Symudodd John o flaen y cwch i'r starn, gan anwybyddu gorchymyn Robert: "Er mwyn Duw, ddyn, paid â symud!" Achosodd y pwysau ychwanegol y starn i fynd i lawr ac yn eu panig symudodd y rhai oedd ar y cwch i un ochr, a throi'r cwch drosodd.

Cydiodd Robert yn un o'r genethod tra'n ymdrechu i gadw'i hun ar yr wyneb. Roedd ei ddillad a'i esgidiau môr yn ei dynnu i lawr. Suddodd ddwywaith gyda hi nes o'r diwedd iddi lithro o'i afael. Roedd yn tybio y byddai ef ei hun wedi boddi mewn pum munud arall oni bai iddo gael ei achub pan gafodd.

Cafodd y cyrff eu canfod dros nifer o ddyddiau. Y corff olaf i'w ganfod, ar draeth Abererch, oedd John Rowland Hughes, yr achosodd ei waedd dyngedfennol ar ei dad y digwyddiadau trychinebus a ganlynnodd. Roedd Jane, ei fam, wedi colli ei holl deulu; roedd hi'n feichiog ar y pryd ac wedi colli'r daith i Bwllheli am nad oedd yn teimlo'n dda. Am fanylion am y rhai a gollwyd, gweler ein tudalen am eu beddau yn Neiniolen.

Canlyniad y cwest yn llys heddlu Pwllheli oedd fod y ddamwain wedi ei hachosi gan newid sydyn yn y gwynt yn peri newid yn y môr pan drodd y cwch, yn ogystal â symudiad John Hughes o'r blaen i'r starn. Gwnaeth y cwest argymhelliad i'r Llywodraeth i sicrhau cofrestu gorfodol yn achos cychod.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, ac i Rhiw.com am yr hen lun. Hefyd i’r Parchedig Ioan W Gruffydd am y cyfieithiad

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button