Olion bryngaerau, Ynys Lochtyn, Llangrannog

Olion bryngaerau, Ynys Lochtyn, Llangrannog

Yn y man deniadol hwn sy’n edrych dros Llangrannog, mae Llwybr Arfordir Cymru yn ein harwain rhwng olion dau fryngaer cynhanesyddol. 

Roedd un o’r caerau hyn ar y pentir cul sy’n arwain at Ynys Lochdyn sef yr ynys sydd i’w gweld yn y pellter (ac yn cael ei ysgrifennu’n gyffredin yn Ynys Lochtyn ). Roedd y creigiau yn sicrhau nad oedd hi’n bosibl cyrraedd at y gaer o gyfeiriad y gorllewin, nac o gyfeiriad y gogledd nac ychwaith o gyfeiriad y dwyrain. Ac roedd y clawdd a’r ffos ar draws darn culaf y pentir yn amddiffynfa o gyfeirad y de. Mae pant yn y clawdd i nodi’r fynedfa. Mae erydu arfordirol wedi dinistrio rhan o’r gaer. 

Roedd y gaer arall yn sefyll ar Pen y Badell, y bryn sydd i’r deau (ar fewndir llwybr yr arfordir). Mae clawdd amddiffynol o amgylch copa’r bryn. Yn ystod cloddio gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn 1990-91 darganfuwyd offer rhyfela cynhanesyddol: celc o ddwsin o gerrig ar gyfer ffondafl; roedden nhw’n cael eu cadw yn y gaer rhag ofn i elyn ystyried ymosod. Mae’r rhain, bellach, yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth. 

Daeth yr archaeolegwyr o hyd i olion tŷ crwn 7 metr o ran trawsfesur, o gyfnod goresgyniad Prydain gan y Rhufeiniad. Darganfuwyd, yn ogystal, byst cornel adeilad a oedd wedi ei godi ar goesau pren, stordy bwyd yn fwy na thebyg. Dangosodd dyddio radiocarbon, ar rannau eraill, olion dynol sy’n perthyn i ddiwedd yr Oes Efydd ar y safle. 

Ers yr Ail Ryfel Byd bu safle gwylio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar Pen y Badell. Gosodwyd hwnnw ar y safle i olrhain symudiad taflegrau o’r Sefydliad Datblygu Taflegrau yn Aberporth ryw 7km i’r de-orllewin. Mudodd y sefydliad i’r ardal hon o Kent yn 1940 am fod de Lloegr bryd hynny dan fygythiad o du’r Almaenwyr. 

Mae amryw fathau o arfau gwahanol wedi eu profi yn y sefydliad. Bellach mae’n arbenigo ar arfau a lawnsir o’r awyr a systemau dibeilot fel drôns.

Yr enw:

Ysgrifennwyd Lochdyn yn Elychton neu efallai’n Clychton yn 1302-3 a cheir L(l)ochdyn / L(l)ochtyn yn y 1750au a’r 1760au. Mae’n bosibl bod yr elfen gyntaf yn perthyn i loch mewn Gwyddeleg (pwll neu gilfach) ond yma cyfeiria at lanfa. Gallai’r elfen –dyn ddod o dynn (amddiffynfa) neu din (caer). 

Diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, yr Athro Hywel Wyn Owen o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button