Safle cytiau cynhanesyddol, Borth-y-Gest, Porthmadog

Link to commissioned work information pages button-theme-prehistoric-more

Mae'r prif lwybr troed trwy'r coetir derw aeddfed a elwir yn Parc y Borth yn mynd ar hyd ymyl deheuol anheddiad Oes yr Haearn Prydeinig neu o’r cyfnod Rhufeinig. Mae olion clir o dri cwt, ac mae'r safle yn cael ei adnabod yn lleol fel Tai Crwn.

Mae'r safle yn Heneb Gofrestredig ac mae'n brin oherwydd ei safle ar dir isel. Fel arfer, ceir olion tai crwn cynhanesyddol ar dir uwch, yn aml o fewn bryngaerau neu gerllaw bryngaerau.

Drawing of how the Parc y Borth huts may have lookedYma mae'r gweddillion o’r cwt ar deras bach ar y llethr, fel y dangosir yn y map trwy garedigrwydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Mae clawdd pridd isel o amgylch y safle yn ffurfio lloc hirgrwn bras, 36x42 metr. Y cwt mwyaf gogleddol oedd tua 7.5 metr mewn diamedr oddi fewn. Ym mhen dwyreiniol y safle safai cwt o tua 6x4 metr. Efallai bod y trydydd cwt wedi bod tua'r un maint, ond mae ei sylfaen wedi'i chuddio'n rhannol gan ddeunydd wedi'i dipio pan grëwyd teras mwy newydd ychydig ymhellach i fyny'r llethr.

Mae'r llun gan Cathy Woodhead o Borth-y-Gest yn dangos sut y gallai'r anheddiad fod wedi edrych. Byddai llystyfiant yr ardal wedi bod yn wahanol iawn 2,000 neu fwy o flynyddoedd yn ôl.

Map of prehistoric huts site near Borth-y-GestDatgelodd gwaith cloddio'r safle yn y 1920au cnepyn fflint (math o garreg a ddefnyddiodd pobl i wneud offer neu ddechrau tanau) a boeler pot (carreg a gafodd ei gynhesu gan dân a'i ollwng i hylifau i'w gwresogi neu eu berwi). Roedd darnau o fwyn haearn hefyd, sy'n dangos y gallai gwneud metel cyntefig fod wedi digwydd yn lleol.

Gwnaed gwaith i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth gwarchodfa natur leol Parc y Borth yn 2023-24, gan gynnwys gwaith dehongli a mynediad, rheoli dolydd blodau gwyllt a coetiroedd, plannu coed a sefydlu perllan gymunedol. Hwyluswyd y gwaith gan y Bartneriaeth Natur Leol yng Ngwynedd a chronfa Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a'r rheolwr wrth gefn Cyngor Gwynedd.

Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd a Cathy Woodhead, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Gweld Map Lleoliad