Porth Ceiriad
Cyfeirio mae’r enw at y gaer o Oes yr Haearn y gwelir ei ffurf wrth gerdded Llwybr yr Arfordir i gyfeiriad Cilan. Saif ar glogwyn 300 troedfedd uwchben y môr, lle bu’n gwarchod y porth islaw ers canrifoedd.
Ystyr caer yw ‘amddiffynfa’ ac ystyr y terfyniad -iad yw ‘lleoliad/safle’. Felly ‘safle’r gaer’ yw ystyr Ceiriad.
Enw’r penrhyn ar ochr Bwlchtocyn i’r porth yw Trwyn yr Wylfa (lle bu gwylio a gwarchod eto) a Trwyn Llech y Doll, Cilan, yw’r penrhyn gyferbyn (y garreg wastad lle talwyd toll).
Rhyngddynt mae tri thraeth: traeth Sidan (y mwyaf); traeth yr Arian (y canol); a’r traeth Melyn. Rhennir y rhain gan Stwffwl Nampig (colofn o graig ar dir Nant y Bîg) ac yna’r Milfeini a rwygwyd o’r clogwyn gan yr elfennau yn niwl y gorffennol.
Ers talwm arferai llongau ddadlwytho glo a chalchfaen a halen at ddefnydd y trigolion a ddeuent ar hyd y Lôn Groes neu drwy Pant y Branner i fasnachu i’r traeth. Cafodd y glo a’r calchfaen eu llosgi i gynhyrchu calch, a ddefnyddiwyd i wrteithio caeau.
Gyda diolch i Diogelu Enwau Llanengan
![]() |
![]() ![]() |