Dyfrbont Pontcysyllte

button-theme-canalDyfrbont Pontcysyllte

Y strwythur hwn yw dyfrbont hiraf ac uchaf Prydain. Fe’i hadeiladwyd rhwng 1796 a 1805 fel rhan o brosiect – chafodd erioed ei gwblhau – i greu camlas o Riwabon a Swydd Amwythig i’r Merswy.

Daw enw’r dyfrbont o’r ferf ‘cysylltu’. Mae'r strwythur, a welir yn y llun o’r 1890au, yn cynnwys cafn o haearn bwrw yn eistedd ar bileri carreg uchel. Mae'r dyfrbont yn 307m (1,007tr) o hyd ac yn sefyll bron i 39m uwchben yr afon Dyfrdwy. Wrth gerdded ar draws, sylwch sut mae dŵr y gamlas – a dynnir o’r afon Dyfrdwy uwchben Llangollen – yn llifo tua’r de, lawer yn uwch na llif dwyreiniol yr afon.

pontcysyllte

Gosodwyd y llwybr troed ar gyfer y ceffylau a dynnai’r cychod camlas gwreiddiol. Ar yr ochr arall, dim ond wal y cafn haearn sy'n gwahanu'r dŵr o'r gwagle tu hwnt i’r dyfrbont. Mae edrych i lawr yn wefr y gallwch chi ei phrofi trwy fynd ar gwch cul ar draws.

Mae’r draphont ddŵr yn cael ei chredydu’n gyffredin i Thomas Telford, a oedd yn arolygwr gwaith ar brosiect Camlas Ellesmere ac a hawliodd y credyd ddegawdau’n ddiweddarach. Cyn hynny, priodolwyd y draphont ddŵr i William Jessop, peiriannydd y gamlas. Yn gynharach yn ei yrfa, roedd wedi helpu i sefydlu gwaith haearn yn Swydd Derby. Mae'n debyg i'r cysyniad gael ei ddatblygu gan y ddau ddyn, gyda chymorth traphontydd dŵr cynharach a pheiriannydd Americanaidd.

Mae’r llun dyfrlliw islaw gan John Ingleby (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn dangos y dyfrbont pan oedd yn cael ei hadeiladu. Mae'n ymddangos bod y parapet yn cael ei osod, o'r chwith, cyn i’r adeiladwyr dynnu'r fframiau pren dros dro o dan y bwâu.

pontcysyllte_under_constructionCafodd y gwaith haearn ei fwrw gan William Hazledine ar stad Plas Kynaston gerllaw. Roedd y perchennog yn un o’r rhai a ddechreuodd cynllun y gamlas. Bwriadwyd i'r gamlas barhau tua'r gogledd o fasn Trefor ond gyda’r bryniau a safai yn y ffordd a thwf cyflym y rheilffyrdd, nid oedd yn economaidd i orffen y cynllun.

Yn wreiddiol, cynlluniwyd cyflenwad dŵr y gamlas i lifo ar hyd ffos o’r tu hwnt i Langollen, ond fel y digwyddodd, adeiladwyd y rhan hon bron yn gyfan gwbl fel camlas i gychod. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, penderfynodd cwmni’r London, Midland & Scottish Railway gau llawer o'r camlesi yr oedd wedi'u hetifeddu, ond roedd Camlas Ellesmere wedi dod yn ddosbarthwr dŵr pwysig.

Heddiw mae Pontcysyllte yn parhau i fod yn rhan o'r system sy'n cludo dŵr yfed i gronfa ddŵr Hurleston, ger Nantwich, Sir Gaer. Yn y 1950au ailenwyd y rhan hon o Gamlas Ellesmere yn Gamlas Llangollen, gan adlewyrchu ei defnydd hamdden cynyddol.

Yn 2009 dynodwyd Camlas Llangollen yn Safle Treftadaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig. Heddiw mae Glandŵr Cymru yn rheoli’r gamlas.

Gyda diolch i Stephen Hughes, o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac i’r Athro Hywel Wyn Owen o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am wybodaeth am enw’r dyfrbont

Map

Mwy o luniau John Ingleby – gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Offas Dyke Tour Label Navigation north to south buttonNavigation south to north button
button_tour_canal3-E Navigation up stream buttonNavigation downstream button