Hen wagenni mwynglawdd, Beddgelert

sign-out

Mae'r wagenni rheilffordd bach hyn yn cynrychioli'r cerbydau a oedd yn cludo llawer iawn o fwyn copr o'r tu mewn i'r mynydd y gallwch eu gweld wrth i chi edrych tua'r dwyrain o'r fan hon. Mae rhai o'r hen weithfeydd ym mwynglawdd copr Sygun bellach ar agor i ymwelwyr. Mae'r llun (trwy garedigrwydd Mwynglawdd Copr Sygun) yn dangos glowyr Sygun yn sefyll wrth ymyl un o wagenni'r pwll.

beddgelert_sygun_copper_mine

Cloddiwyd copr mewn gwahanol fannau yn Eryri, o gyfnod cyn hanesyddol a gan y  Rhufeiniaid. Agorwyd pwll copr Sygun (a elwir hefyd yn Sygyn) yn y 18g.

Yn y 19eg ganrif, roedd copr o Ogledd Cymru yn cael ei fasnachu yn Abertawe, oedd ar y pryd yn gartref i ddiwydiant mwyndoddi copr mwyaf y byd. Ar ddiwrnod arferol, 8 Gorffennaf 1829, gwerthwyd 13 tunnell o fwyn copr Sygun yn Abertawe am y pris isel o £1 7 swllt (tua £70 yn arian heddiw), tra bod prynwr arall yn talu £3 11s 6d (hen geiniogau) am 12 tunnell o fwyn Sygun (tua £180 heddiw).

Wrth i'r galw am gopr gynyddu, dechreuodd Prydain fewnforio cyfeintiau cynyddol o fwyn am brisiau oedd yn gwneud mwyngloddiau bychain fel Sygun yn anghystadleuol. Roedd proses arnofio a ddatblygwyd yn Sygun yn 1898 yn galluogi mwy o gopr gael ei wahanu o'r graig wastraff, ond byrhoedlog oedd y manteision a chaeodd y pwll yn 1903.

Yn yr un flwyddyn fe wnaeth Daniel Roberts, un o drigolion Beddgelert, wneud cais am iawndal gan Gwmni Crynhoi Mwyn Prydain am fod ei fab Henry wedi ei ladd mewn damwain ym mhwll Sygun. Cyflog Henry oedd tua 24 swllt yr wythnos.

Ym mis Ionawr 1903 nododd y bwrdd pysgodfeydd lleol fod "pwll setlo" wedi ei gloddio ger y pwll lle'r oedd dŵr llygredig o'r gweithfeydd wedi dyddodi amhureddau cyn llifo i afon Glaslyn. Er bod pysgod wedi dod yn ddigon niferus unwaith eto yn rhan isaf yr afon, roedd y bwrdd yn poeni am lygredd difrifol o fwynglawdd copr yr Wyddfa, ymhellach i fyny'r afon.

Erbyn 1910 roedd peiriannau mwynglawdd Sygun i gyd wedi cael eu tynnu. Roedd y gweithfeydd yn segur tan y 1980au, pan gliriwyd rhai o'r twneli a'u haddasu er mwyn i ymwelwyr gerdded trwyddynt. Mae mwynglawdd copr Sygun bellach yn gweithredu fel atyniad dwristaidd. Dilynwch y ddolen isod os hoffech ymweld.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post (ar gyfer hen wagenni y pwll) : LL55 4YE    Gweld Map Lleolid

Gwefan  Mwynglawdd Gopr Sygun

button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour