Gorsaf reilffordd Castell-nedd
Ar un adeg roedd gan Castell-nedd ddwy orsaf reilffordd, wedi'u gwahanu gan gamlesi ac afon. Gwelir y ddwy yn y llun awyr isod o 1943, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru – gweler y troednodiadau am fanylion.
Yr orsaf sydd wedi goroesi oedd y gyntaf i agor, ar 18 Mehefin 1850, ar y South Wales Railway o Gaerloyw i Abertawe. Peiriannwyd y llinell gan Isambard Kingdom Brunel.
Gwnaeth dwy injan stêm, o'r enw Phantom a Hercules, y rhediadau prawf cyntaf o Gaerdydd ym mis Mai 1850. Casglodd tyrfa fawr o amgylch gorsaf anghyflawn Castell-nedd i weld y peiriannau'n "chwythu ac yn pwffian o gwmpas".
Ymddeolodd yr orsaf-feistr David Thomas yn 1882 ar ôl 30 mlynedd yn y swydd. Cafodd ei daro i lawr gan drên yn y 1870au ond osgoi anaf difrifol, er i'r locomotif falu cyllell yn un o bocedi ei gôt!
Agorwyd ail orsaf Castell-nedd flwyddyn ar ôl y gyntaf, ym mis Medi 1851. Hon oedd terfynfa’r Vale of Neath Railway, a beiriannwyd gan Brunel hefyd. Arweiniodd y llinell hon i Lyn-nedd ac Aberdâr, ac yn ddiweddarach i Ferthyr Tudful a Phont-y-pŵl. Ychwanegwyd llinellau eraill o'r orsaf honno i ddociau Abertawe ac i Aberhonddu.
Gelwid yr orsaf brif linell yn Neath Town ac yn ddiweddarach Neath General. Ar ochr orllewinol yr afon roedd gorsaf Neath Low Level, yn ddiweddarach Bridge Street ac yna Riverside.
Rhedai’r Great Western Railway drenau i Lyn-nedd a thu hwnt o'r ddwy orsaf. Roedd cysylltiad i'r gogledd o orsaf y General â llinell Cwm Nedd, ond nid â llinell Aberhonddu.
Caeodd gorsaf Riverside yn 1964 ond cadwyd y trac ar gyfer trenau glo. Mae platfform diffaith i'w weld o hyd o bont Stryd y Bont.
Dymchwelodd y GWR orsaf y South Wales Railway yn y 1870au ac adeiladu'r platfformau gorsaf sydd wedi goroesi. Ganrif yn ddiweddarach, ceisiodd protestwyr atal British Rail rhag gosod adeiladau a chanopïau newydd yn lle rhai'r GWR, y gallwch eu gweld yn y lluniau o'r 1960au gan John Davies. Mae un llun yn dangos trên cyflym i Lundain yn pasio wagen ger y platfformau nwyddau. Mae'r llall yn dangos trên i Bont-y-pŵl yn pasio Capel Soar tra yn y cefndir mae'r locomotif a ddaeth â'r trên o Abertawe.
Gyda diolch i John Davies a Llywodraeth Cymru
Cod post: SA11 1BY Map
Troednodiadau: Beth y mae'r llun o'r awyr o 1943 yn ei ddangos
Mae gorsaf Neath General yn y gornel dde isaf. Mae'r brif linell i Abertawe yn troi i'r chwith, gan fynd dros yr afon ac yna dros linell Cwm Nedd, ychydig y tu hwnt i orsaf Neath Riverside. Mae llinell Cwm Nedd yn troi tuag at y gornel dde uchaf, lle mae'r llinell gysylltu o Neath General yn ymuno â hi. Mae'r llinell i Aberhonddu yn dargyfeirio ar frig y llun, ger y canol.
I'r chwith o'r afon mae Camlas Tennant. Mae Camlas Castell-nedd rhwng yr orsaf cyffredinol a'r afon, gydag adeiladau ar bob ochr. Pont Stryd y Bont oedd unig ffordd y dref dros yr afon yn 1943.