Olion castell mwnt a beili, Bala

button-theme-bala-700Crëwyd y twmpath pridd a elwir yn Tomen y Bala ar gyfer castell 'mwnt a beili' - yr adeilad cyntaf mwy na thebyg yn yr ardal a ddaeth yn dref Y Bala. Mae Heol y Domen wedi ei enwi ar ei ôl. Mae'r llun yn dangos yr olygfa o ben y twmpath c.1799, mae'r llun gan John Thomas yn dangos y twmpath gyda choeden yn tyfu ar ei ben. Mae'r ddau i'w gweld yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

View from Bala tomen c.1799Pwrpas y castell oedd amddiffyn y rhyd gerllaw ar draws afon Tryweryn. Nid oes tystiolaeth ddogfennol i nodi dyddiad ei adeiladu, ond mae maint mawr y domen (un o'r mwyaf yng Nghymru) yn awgrymu ei fod yn adeiladwaith Normanaidd. Gall ymwneud â'r daith filwrol i Ogledd Cymru yn 1095 gan y Brenin William II (William Rufus), neu gyrch gan y Brenin Harri I yn 1114.

Syrthiodd y castell yn fuan i ddwylo’r Cymry. Erbyn diwedd y 12g, roedd ym meddiant Elise ap Madog o Rhiwaedog. Ef oedd arglwydd Penllyn a oedd yn rhan o Bowys ar y pryd. Yr unig gofnod ysgrifenedig canoloesol o'r castell yw’r un yn dyddio o 1202, pan ei cymerwyd gan Llywelyn Fawr o Wynedd pan fu mewn gwrthdaro â Gwenwynwyn o Bowys, a’i feddiannu oddi wrth Elise a gwneud Penllyn yn rhan o Wynedd.

Photo of Tomen y Bala c.1875Sefydlwyd tref Y Bala yn 1310 gan Roger Mortimer, arglwydd Y Waun, ar gyfer tua 50 o ymsefydlwyr Seisnig. Adnewyddwyd ei siarter wreiddiol yn 1311 gan y Brenin Edward II ym 1324, ac erbyn hynny roedd Roger Mortimer yn garcharor yn Nhŵr Llundain, lle bu farw yn 1326. Mae gan yr Archifau Cenedlaethol yn Kew gopi diweddarach o Siarter Tref y Bala 1324, a seiliwyd ar siarteri Caernarfon a Henffordd, a oedd yn ei dro yn deillio o'r siarter tref Normanaidd wreiddiol a roddwyd gan Ddug Normandi i dref Breteuil.

Yr enw lle: Gair cyffredin Cymraeg yn golygu adwy neu fwlch oedd "bala" yn wreiddiol, ond daeth yn ddiweddarach i olygu'r fan lle bydd afon yn llifo allan o lyn. Yn yr achos hon cyfeiria at y fan lle rhed Afon Dyfrdwy o Lyn Tegid. Mae'r enw Bala yn bodoli mewn sawl lleoliad yng Nghymru. Erbyn hyn mae'n dynodi all-lifiad o lyn neu'r tir rhwng dau lyn, fel yn Baladeulyn yn nyffryn Nantlle a Phont y Bala yn Llanberis. 

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL23 7NG    Gweld Map Lleoliad

button-tour-bala-700 previous page in tournext page in tour