Amgueddfa Llandudno, Stryd Gloddaeth, Llandudno

button-theme-prehistoric-moreSefydlwyd yr amgueddfa hon yn 1926 gyda chymynrodd Francis Edouard Chardon (1865-1925), baglor, casglwr a dyngarwr a aned yn India ac a addysgwyd yn Lloegr. Roedd ei dad yn blannwr indigo cyfoethog ac roedd ei fam yn dod o deulu Eidalaidd cyfoethog. Bu hi'n byw y 10 mlynedd olaf ei bywyd mewn tŷ preswyl yn Llandudno.

Painting of Francis ChardonAstudiodd Francis (yn y llun) yn y Sefydliad Celfyddyd Cain yn Napoli ac arbenigai mewn tirluniau. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn datblygu ei dŷ yng Nghraig y Don, Llandudno, a addurnodd gyda chasgliad o gelf cain addurnol. Gadawodd y tŷ a'r cynnwys i bobl Llandudno.

Symudodd yr amgueddfa i'w hadeilad presennol ym 1995. Mae'r casgliad wedi ehangu'n fawr i adrodd hanes ardal Llandudno, o'i wreiddiau yn y cyfnod Carbonifferaidd (bron i 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl) hyd at ei ddatblygiad fel "Brenhines Cyrchfannau Cymru". Mae casgliad celf Chardon hefyd yn cael ei arddangos yma.

Photo of prehistoric skullYma gwelwch wrthrychau cynhanesyddol a ddarganfuwyd mewn ogofâu ar y Gogarth, gan gynnwys penglog Pant y Wennol 5,000 mlwydd oed (yn y llun). Hefyd dyma sgerbwd Neolithig 'Blodwen', a ddarganfuwyd ar Rhiwledyn (neu Drwyn y Fuwch) yn 1891. Mae ymchwilwyr wedi sefydlu ei bod wedi byw tua 3510CC ac wedi gwneud gwaith llafur trwm, bwyta bwyd o'r tir ond nid pysgod, ac roedd hi'n 54 i 63 oed pan fu farw.

Mae Ystafell Rufeinig yr amgueddfa yn cynnwys eitemau a gloddiwyd yn y 1920au ar safle caer Rufeinig Canovium, yn Nyffryn Conwy.

Mae arddangosfeydd eraill yn ymwneud â Sant Tudno, y sant o'r 6ed ganrif a roddodd ei enw i Llandudno, a chyfraniad y dref i'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Mae yna hefyd siwt o arfwisg Samurai Japaneaidd, a gyflwynwyd i Dywysog Cymru yn 1922.

Yn yr ardd flaen gallwch weld pwyntiau o'r dramffordd a gysylltai Llandudno â Bae Colwyn o 1907 i 1956. Galluogodd y pwyntiau dramiau i newid traciau a chawsant eu cloddio o Stryd Gloddaeth, lle'r oedd y dramffordd yn rhedeg yng nghanol y ffordd.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL30 2DD    Gweld Map Lleoliad

Gwefan Amgueddfa Llandudno

tour-tramway button_nav_to_colwbutton_nav_to_llan