Inclêns ‘A’ chwarel Dinorwig, Llanberis

sign-out

Inclêns ‘A’ chwarel Dinorwig, Gilfach Ddu, Llanberis

O Gilfach Ddu mae pâr o draciau rheilffordd cul yn arwain i fyny heibio'r coed i'r de-ddwyrain. A1 oedd hwn, yr isaf mewn cyfres o 10 inclên a ddaeth â llechi i lawr o ochr Garret chwarel lechi enfawr Dinorwig.

Roedd yr inclêns hyn yn cael eu pweru gan ddisgyrchiant. Roedd pwysau wagenni llwythog disgynnol yn tynnu wagenni gwag i fyny ar y trac cyfagos. Roedd cebl yn cysylltu’r ddwy set o wagenni ac yn pasio dros drwm weindio ar y brig, lle roedd breciau yn rheoleiddio cyflymder y wagenni. Roedd set debyg o inclêns ym mhen pellaf chwarel Dinorwig (ochr Braich).

Byddai’r inclêns yn cludo llechi o weithfeydd hyd at c.670 metr (2,200 troedfedd) uwch lefel y môr. Roedd angen peirianneg sifil sylweddol i gynnal y disgyniadau ar raddiant cyson, gyda waliau cerrig uchel wedi'u hadeiladu mewn mannau.

I ddechrau, cludwyd llechi o'r chwarel ar draciau a thramffyrdd yn uwch i fyny. Adeiladwyd y tir yn Gilfach Ddu allan i'r llyn trwy ddympio gwastraff llechi a daeth yn derfynfa uchaf Rheilffordd Padarn ym 1843. O hynny ymlaen, gosodwyd y wagenni a gyrhaeddai o'r lefelau uchaf ar wagenni mwy o faint ar gyfer y daith i’r Felinheli, lle y llwythwyd y llechi ar longau.

Proseswyd llechi a gyrhaeddai ar A1 yn y felin lechi fawr ger pen uchaf inclên A4. Gallwch weld yr inclêns A uchaf trwy fynd i mewn i'r hen chwarel ar y llwybr troed o Allt Ddu.

Ym 1894 digwyddodd damwain angheuol pan dorrodd lifer brêc yr A6 o dan law braciwr o’r enw Griffith Owen (oherwydd bollt ddiffygiol). Yn groes i reolau’r cwmni, roedd chwech o ddynion yn reidio ar y wagenni disgynnol. Neidiodd dau i ffwrdd pan sylweddolon nhw'r broblem. Daliodd y lleill yn dynn ac fe'u hanafwyd yn wael pan slamiodd y wagenni i mewn i wal wrth waelod yr A6.

Yn y cyfamser, roedd JR Owen, llanc o Glwtybont, yn reidio ar ei ben ei hun ar dair wagen wag a esgynai ar y trac cyfagos. Gan gyrraedd pen yr A6, hedfanodd y wagenni trwy'r awyr i ben y drwm weindio gyda'r fath drais nes iddynt ddadleoli to'r tŷ weindio. Daeth Griffith o hyd i gorff y llanc tua 15 metr y tu hwnt i’r sied, ac roedd wedi ei drawmateiddio gormod iddo fedru ddisgrifio’r hyn a welodd.

Defnyddiwyd inclêns bwrdd yn lleol hefyd, fel y gwelwch i'r gogledd-orllewin o'r fan hon.

Cod post: LL55 4TY    Map