Y cyn Faynol Arms, Caernarfon
Bu bygythiad dymchwel yr adeilad hwn ond fe aeth ymgyrchwyr i’r Uchel Lys yn y 1990au i atal hyn. Gan hynny fe achubwyd yr adeilad – sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg – rhag ei ddymchwel.
O samplau o’r coed yn yr adeilad, dymchwelwyd y coed yng ngaeaf 1506-1507 felly codwyd yr adeilad yn syth wedyn. Coed gwyrdd ddefnyddiwyd yn hytrach na rhai sych bryd hynny.
Tŷ tref i rhywun cyfoethog oedd hwn – ond does neb yn gwybod pwy oedd. Ail adeiladwyd y talcen mewn cerrig yn yr 18G. O fewn yr adeilad ceir ychydig o’r bangorwaith (wattle) a dwb (daub) – gadawyd darn i’w weld.
Tafarn y Vaynol Arms oedd yma yn y 19G pan gafodd stad y Faenol yr adeilad. Yn 1860 fe gafflwyd llong bleser o’r enw y Dart yma. Talodd y 70 danysgrifwyr £1 yr un. Yr enillydd oedd William Mathews, gynt o westy’r Fictoria yn Llanberis. Fe roddodd y gwch yn syth i Thomas Winsor, tafarnwr y Fic, i gadw addewid a wnaeth cyn prynu’r tocyn.
Yn 1917 apeliodd y tafarnwr James Williams rhag cael ei gonsgriptio i’r fyddin ac fe ohiriwyd yr alwad. Ond ym Mai 1917 trosglwyddwyd y drwydded i’w wraig.
O ddiwedd yr 1930au neu’n gynnar yr 1940au roedd rhan o’r adeilad yn siop clustogwaith (upholsterer). Defnyddiwyd rhan arall o’r adeilad fel siop trin gwallt ar adegau. Am ddegawdau chafodd yr adeilad ddim sylw, a bu i un ffenestr ddisgyn i’r stryd yn 1989.
Cynllun Cyngor Bwrdeistref Arfon oedd dymchwel yr adeilad, gan ei fod yn hyllbeth, ar yr ail o Ionawr 1995. Ond ar 31ain o Ragfyr cafodd grŵp Save Britain’s Heritage (SAVE) waharddeb Uchel Lys i atal hyn. Fe sefydlodd SAVE Ymddiriedolaeth Treftadaeth Caernarfon i brynu ac adfer yr adeilad. Cafwyd arian gan Cadw, y Loteri, Cronfa Treftadaeth Bensaernïol a’r Tywysog Siarl, ac ail-agorodd yr adeilad yn 1996.
Heddiw mae’n gartref i Life: Full Colour, sy’n arbenigo mewn celf gan artistiaid Cymreig a rhyngwladol.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Còd Post: LL55 1RR Gweld Map Lleoliad