Plough Inn gynt, Llandegla

button-theme-prehistoric-more

Roedd y rhan wreiddiol hon o'r adeilad hwn, gwesty The Grousemoor bellach, yn dafarn porthmyn o'r enw Plough Inn. Roedd gan y pentref 16 o dafarndai yn darparu ar gyfer porthmyn yn yr oes cyn y rheilffordd, pan gerddwyd nifer fawr o anifeiliaid fferm y ffordd hon o ogledd-orllewin Cymru i farchnadoedd Lloegr.

Am ddegawdau lawer yn y 19eg a'r 20g, cadwyd y Plough Inn gan genedlaethau olynol o deulu Harrison. Roedd y daliwr trwydded Edward Harrison yn adnabyddus yn y mudiad capel Annibynnol Cymraeg. Priododd ei ferch hynaf John Jones o Bodidris yng nghapel Pisgah yn 1883. Darganfu John ei chorff marw ar iard eu cartref, Tŷ Hir, ym mis Ebrill 1896. Roedd hi'n 38 oed ac wedi gadael tri o blant.

Wrth i draffig modur ar y ffordd heibio i'r dafarn dyfu, gosododd yr Harrisons mentrus bwmp petrol cyntaf Llandegla. Roedd eu Yale Garage ar ben pellaf (gorllewinol) maes parcio heddiw.

Prynodd Jack Rennie y Plough Inn gan yr Harrisons yn y 1940au. Degawdau yn ddiweddarach, cofiodd ei fab Derek rai o gymeriadau'r dafarn ar gyfer Grŵp Gweithredu Mileniwm Llandegla. Roedden nhw'n cynnwys "John y Botel”, a gyrhaeddai ar y bws 6yh, chwarae dominos gyda'r perchennog neu ei wraig, a gadael ar y bws 7yh – bob amser yn cydio mewn potel o gwrw ar gyfer y daith adref.

Caeodd y Plough Inn yn 2015. Adnewyddodd y ffermwr lleol Brian Jones a'i chwaer Pamela Morris yr adeilad a'i ailagor yn 2018 fel The Grousemoor, gwesty gwledig sy'n darparu ar gyfer digwyddiadau ac yn cynnig te prynhawn.

Ychydig i'r dwyrain mae safle claddu cynhanesyddol, wedi'i ddileu'n rhannol gan ledu'r ffordd yn 1935. Cafwyd hyd i lwch pedwar corff mewn dau wrn, pwll a chist garreg. Mae olion sawl siambr gladdu a charneddi yn ardal Llandegla yn dangos bod poblogaeth sefydledig yma yn Oes yr Efydd.

Ffynonellau: Llandegla Ddoe a Heddiw, gan Grŵp Gweithredu Mileniwm Llandegla, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: LL11 3AB    Gweld Map Lleoliad

Gwefan The Grousemoor