Hen Dafarn yr Eryr, Aberteifi

button-theme-pow

Ar gornel y stryd saif hen Dafarn yr Eryr (Eagle Inn). Tra roedd hi'n byw yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, derbyniodd Edith Davies newyddion gan ei gŵr a oedd mewn gwersyll carcharorion rhyfel Almaenig (gweler isod).

Copy of postcard filled in by PoW Daniel DaviesUn o landlordiaid Fictoraidd y dafarn oedd y Capten Thomas Mathias, a oedd yn berchen ar gwch o'r enw Ann. Yn 1882 aeth y cwch i'r lan ger Aberdaugleddau tr’n hwylio at y dref gyda llwyth o lechi o Gilgerran. Achubwyd y criw. Gadawodd Thomas y dafarn yn 1893. Ym mis Mehefin 1884, boddodd ef a chyd-forwr pan suddodd yr Ann ger Abergwaun.

Roedd gan Dafarn yr Eryr ei stablau ei hun. Yn 1909, daeth cwnstabl heddlu o hyd i adfarch du mewn cyflwr gwan iawn yn iard y dafarn. Prin y gallai'r ceffyl sefyll ac roedd ganddo friw yn gollwng o dan y cyfrwy. Yn gynharach, roedd yr heddwas wedi gweld y ceffyl yn tynnu wagen, yn dal pedwar o bobl a bagiau, trwy'r dref. Bu’n rhaid i berchennog y ceffyl, Thomas Griffiths o Gasnewydd (Sir Benfro), dalu £1 5s 9c mewn dirwyon a chostau.

Photo of Daniel Davies and others at German PoW campCatherine Davies oedd trwyddedai’r Eagle Inn erbyn 1921. Roedd ei mab Fred yn byw yno pan ymunodd â’r lluoedd arfog ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn byw yno eto, gyda’i fam, yn 1921.

Bedyddiwyd merch Catherine, Edith Anna Davies, ym mis Mawrth 1895. Ym mis Rhagfyr 1915, priododd Edith â Daniel Harton Davies, o’r Royal Field Artillery. Enwau eu tadau ill dau oedd David Davies, ac enwasant eu mab (ganwyd ar 27 Awst 1918) yn David Eldred Davies.

Photo of German PoW where Daniel Davies was heldRoedd tad Daniel yn sarjant yng Nghwnstabliaeth Sir Aberteifi. Yn 1911 roedd Daniel, 17 oed, yn byw gyda'i rieni yng ngorsaf heddlu Aberteifi ac yn gweithio fel cynorthwyydd groser.

Tra roedd Daniel yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Edith yn byw gyda'i mam yn Nhafarn yr Eryr. Ar ôl cael ei ddyrchafu'n rhingyll am ei ddewrder, aeth Daniel ar goll yn Ffrainc ym mis Mawrth 1918. Ar 21 Mawrth llenwodd gerdyn post pro-forma, a ddangosir yma trwy garedigrwydd Archifau Ceredigion, i ddweud wrth Edyth (sillafiad Daniel) ei fod yn garcharor rhyfel yn yr Almaen.

Mae Daniel ar waelod chwith y llun sy’n dangos grŵp o ddynion yn eu gwersyll carcharorion rhyfel. Mae'r llun arall yn dangos y gwersyll ger Altdamm lle cafodd ei ddal (y ddau lun trwy garedigrwydd Archifau Ceredigion). Ym mis Rhagfyr 1918, derbyniodd Edyth delegramau o Gopenhagen a Chaeredin wrth i Daniel deithio adref. Yn ôl yn Nhafarn yr Eryr, derbyniodd lythyr gan y brenin yn ei groesawu adref, a chyflwyniad gan gyngor y dref. Yn ddiweddarach gwasanaethodd yn yr heddlu.

Am fwy o'i ddogfennau a'i luniau amser rhyfel, dilynwch y ddolen isod.

Gwasanaethodd David Eldred Davies yn yr Ail Ryfel Byd ac roedd yn gurad Y Drenewydd gyda Llanllwchaearn 1949-51.

Diolch i Archifau Ceredigion

Cod post: SA43 3AA    Map

Gwefan Archifau Ceredigion – mwy o hanes Daniel Davies a lluniau

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button