Hen siop adrannol Bon Marché, Abertyleri

BG-LogoBG-words

Roedd yr adeilad hwn yn gartref i siop adrannol glodfawr yn ystod oes aur ddiwydiannol Abertyleri.

Cafodd y siop sawl camgychwyniad cyn i Joseph Henry Powell ffurfio partneriaeth newydd ym 1892 gyda Griffith Owen Jones, a oedd wedi symud i’r ardal o Sir Gâr. Dillad dynion oedd y prif ffocws. Roedd y siop hefyd yn cyflogi hetwragedd, a “menywod ifainc” yn yr adran nwyddau ffansi.

abertillery_bon_marche

Fe ffynnodd busnes ac fe agorodd y partneriaid siopau tebyg mewn trefi eraill yn y Cymoedd, gan gynnwys Brynmawr. Fe ehangwyd siop Abertyleri yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Roedd yn cael ei hystyried yn siop o safon well na siop adrannol Pontlottyn, ar ochr arall Stryd Commercial (sydd bellach yn dafarn JD Wetherspoon). Arferai staff gael trip blynyddol i Gilwern, lle byddent yn cael pryd o fwyd yn y Navigation Inn ar lan y gamlas.

Fe adawodd un o’r staff, Benjamin Evans, i wasanaethu gyda Chyffinwyr De Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl ymladd mewn sawl brwydr yn ystod tair blynedd o wasanaeth gweithredol, bu farw o anafiadau saethu mewn ysbyty yn Ffrainc ym mis Ebrill 1918, ac yntau’n 24 oed. Roedd ei rieni, Benjamin a Bridget, yn byw yn Nantgaredig, Sir Gâr.

Ym 1920 fe wnaeth Bon Marché gymryd drosodd weddill y safleoedd yn ei bloc. Cafodd y ffryntiad ei estyn ar draws yr adeilad yn ddiweddarach, gydag ystod fwy a mwy eang o nwyddau’n cael eu cynnig i siopwyr – gan gynnwys dodrefn o 1927 a phapur wal a phaentiau o 1931. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd gallech hefyd brynu teganau, deunydd ysgrifennu, tsieni, nwyddau trydanol ac eitemau chwaraeon yma. Roedd plant yn ymweld â Siôn Corn yn ei groto yn y Bon Marché ym mis Rhagfyr.

Difrodwyd y Bon Marché ddwywaith gan dân, ym 1894 a 1939. Dechreuodd tân 1894 mewn simdde ac fe roddodd nwyddau ar dân ar bwys lle tân. Pe na bai neb wedi sylwi’n gyflym ar y tân, gallai’r adeilad i gyd fod wedi cael ei ddifetha’n llwyr, gan nad oedd unrhyw injans tân yn Abertyleri.

Fe gaeodd y siop ar ddiwedd y 1960au. Bu’r bwrdd trydan yn defnyddio rhan o’r adeilad fel lle gwerthu ac ystafell arddangos. Yn ddiweddarach cafodd yr adeilad ei drosi’n archfarchnad Gateway.

Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac i Graham Bennett. Mae'r ffynonellau yn cynnwys: ‘Abertillery and District History 2000’, gan yr Abertillery & District Museum Society

Cod post: NP13 1DJ Map

Mwy am y Bon Marché ar wefan Graham Bennett

button-tour-abertillery-town-trail previous page in tournext page in tour