Neuadd yr eglwys ‘Feed My Lambs’, Caernarfon

Neuadd yr eglwys ‘Feed My Lambs’, Caernarfon

Feed My Lambs yw enw’r adeilad hwn oherwydd y dyfyniad Beiblaidd (Ioan 21:15) dros y drws. Y cynllunydd oedd y pensaer lleol John Lloyd ac fe’i gynlluniwyd a’i adeiladu yn 1836 fel neuadd i’r eglwys. Bu’n ysgol i’r plant ifanc o gartrefi tlawd tra roedd y rhai hŷn yn cael eu haddysg yn yr Ysgol Rad (National School) dros y ffordd.

Photo of stained glass window in Feed My Lambs hallPan adeiladwyd y ffordd osgoi fewnol newydd drwy’r dref yn yr 1970au fe chwalwyd yr Ysgol Rad (gwaith John Lloyd eto) gan adael ond y porth mynediad carreg fel mynediad i’r parc chwarae dros y ffordd.

Cychwynnwyd prosiect adfer yn 2007 gyda chymorth grant Loteri dan ofal y pensaer Russell Hughes. Bu i’r gwaith ddatgelu ffenestr eglwys wreiddiol oedd wedi ei chuddio. Mae’r llun yn dangos y gwydr lliw newydd a gynlluniwyd ar gyfer y ffenestr gan plant ysgolion lleol dan arweiniad yr arlunydd Meri Jones.

Creodd Meurig Williams o’r cwmni Gwaith Haearn Brunswick, Caernarfon, giatiau cywrain i’r safle.

Yn wreiddiol roedd yr adeilad yn rhan o Stryd y Llyn i lawr i’r maes. Stryd y Llyn oherwydd fod yna lyn ar afon Cadnant yn nes i lawr. Yn y llyn hwn y byddai’r ffermwyr yn disychedu’r da cyn eu cyflwyno i’r farchnad ar y maes. Mae’r afon wedi ei rhoi mewn peipiau dan y dref a’r maes ac yn arllwys i’r Fenai yn nociau Fictoria. Ychydig i’r dwyrain mae’r stryd yn newid i Ffordd Llanberis. Ond o gael y ffordd osgoi fe dorrwyd cysylltiad a Stryd y Llyn ac fe ffurfiwyd y tro i lawr y llethr a’i alw yn Lôn Ysgol Rad.

Ymhellach fe ddyluniodd John Lloyd farics y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a adeiladwyd yn 1855. Maent i’r chwith o edrych ar adeilad ‘Feed My Lambs’ ac ychydig i fyny’r stryd, ac mae’r rhan fwyaf yn dal i sefyll. Gosodwyd gyllid o £4,000 gan Gyngor Sir Caernarfon i’r adeiladau, gan gynnwys ystordy arfau sy’n dal yn weithredol. Roedd yn rhan o gynllun ar draws Gogledd Cymru i wella’r cyfleusterau i’r milisia – milwyr gwirfoddol oedd yn ymarfer yn eu hamser eu hyn.

Yn gynnar ar ôl cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ym Medi 1914 fe ddosbarthwyd gwahoddiadau o’r barics i ‘ddynion da’ rhwng 17 a 35 i ymuno a Bataliwn Diriogaethol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i ddwblu ei maint i 1,960 o dynion. Fe gâi’r gwirfoddolwyr warantau trafaelio am ddim ar y rheilffyrdd i Gaernarfon o naw tref gyfagos.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Còd Post: LL55 1SR    Gweld Map Lleoliad

Gwefan y plwyf

Tour button for Caernarfon law and dissorder tour Navigation previous buttonNavigation next button