Blociau gwrth-danc Fairbourne
Blociau gwrth-danc Fairbourne
Mae'r blociau concrit ar hyd glan y môr yn Fairbourne yn ffurfio un o'r enghreifftiau sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain o amddiffynfeydd yr Ail Ryfel Byd yn erbyn goresgyniad.
Ym 1940, ar ôl cwymp Ffrainc a'r Gwledydd Isel, roedd pryder mawr ym Mhrydain y gallai'r Almaenwyr geisio goresgyn. Er ei bod yn debygol y byddai unrhyw ymosodiad o dir mawr Ewrop yn dod o bob rhan o Sianel Lloegr, roedd yn bwysig bod y fyddin yn paratoi ar gyfer pob posibilrwydd, gan gynnwys ymosodiadau ar hyd arfordir Môr Iwerddon. Mewn gwirionedd, ystyriodd Hitler a'i gadfridogion ddwywaith ymosod ar Brydain i'r cyfeiriad hwn, o dan y ffugenw Ymgyrch Werdd.
Er mwyn atal llu goresgynnol rhag ddod oddi ar y traethau a symud i mewn i'r tir, adeiladwyd blociau trapesoid mawr yn Fairbourne. Yn gyfangwbl, adeiladwyd 691 o rwystrau tanc concrit, yn pwyso oddeutu dwy dunnell yr un. Maent yn ymestyn dros 2,400 metr ar hyd yr arfordir i Aber Mawddach.
Fe'u lluniwyd o gerrig a cherrig mân lleol wedi'u gorchuddio â choncrit gan ddynion, menywod a bechgyn lleol, o dan oruchwyliaeth y Peirianwyr Brenhinol. Mae enwau neu lythrennau cyntaf eu crewyr ar rai o'r blociau, gan gynnwys Betty Price.
Yn wasgaredig yn llinell y blociau roedd pum “bocs bilsen” – cytiau sgwat gyda thoeau a waliau trwchus. Roedd gan bob un dyllau (tebyg i hollt) lle gallai milwyr danio ar y gelyn oedd yn agosáu.
Mae’r blociau yn ymddangos fel dannedd yn y lluniau, a dynnwyd gan yr Awyrlu ym 1950 ac a welir yma drwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru. Yn y llun uchaf mae Ffordd y Traeth yn amlwg, yn arwain at dren stêm yn yr orsaf.
Erbyn hyn, y blociau gwrth-danc a'r ddau focs bilsen sydd wedi goroesi yw unig olion gweladwy system amddiffynnol a oedd hefyd yn cynnwys clymiadau weiren bigog, cae o ffrwydron tir a physt fertigol ar y traeth i rwystro goresgyniad amffibiaidd.
Dim ond cwpl o ffyrdd sy'n arwain i ffwrdd o'r traeth yn Fairbourne, a byddai lluoedd yr Almaen wedi gorfod eu defnyddio er mwyn symud i mewn i'r tir. Mae tystiolaeth ym mhen deheuol Penrhyn Drive South, ychydig ar ôl pasio o dan y rheilffordd, o flociau concrit eraill a fyddai wedi arafu’r symudiad ymhellach.
Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno, ac i Lywodraeth Cymru
![]() |
![]() ![]() |