Parc Eugene Cross, Glynebwy

BG-LogoBG-words

Daeth yr ardal hon i fod yn Barc Llesiant y dref ym 1919. Fe’i hailenwyd ar ôl Syr Eugene Cross (1896-1981), a fu’n gadeirydd pwyllgor gwaith Lles Glynebwy a’r clwb rygbi.

Roedd Cymdeithas Les y dref yn un o nifer o gymdeithasau cydgymorth ym Mhrydain cyn y wladwriaeth les. Un o’i thasgau cyntaf oedd rhoi mynediad gwell i drigolion at gyfleusterau chwaraeon a hamdden. Buan iawn y cafodd y parc ei offeru ag eisteddle rygbi, pafiliwn criced a chyrtiau tennis.

Fe adawodd Eugene Cross, a oedd yn frodor o Lynebwy, ei swydd fel glöwr i wasanaethu yn Ffrainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd y Medal Milwrol ym 1918. Dechreuodd weithio yng ngweithfeydd dur Glynebwy ym 1920.

Fe helpodd i drefnu trosglwyddo perchnogaeth y parc ym 1923 o’r cwmni dur i bobl y dref. Enwyd y parc ar ei ôl ym 1973 i nodi 50 mlynedd o wasanaeth. Fe’i hurddwyd yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines ym 1979.

Bu Eugene hefyd yn rhan o ailagor gweithfeydd dur Glynebwy yn y 1930au, yn dilyn eu cau ym 1929 a diweithdra torfol. Trefnodd wŷr di-waith i droi tomen sbwriel ar lan yr afon ochr yn ochr â’r parc yn bwll nofio awyr agored. Agorodd y pwll nofio ym 1931 ac fe gaeodd 30 mlynedd yn ddiweddarach. Erbyn trothwy’r Ail Ryfel Byd, roedd 200,000 o oedolion a 40,000 o blant wedi defnyddio’r pwll nofio yn ôl yr amcangyfrif. Cyn 1931, roedd pobl ifanc weithiau’n marw wrth nofio mewn pyllau nofio lleol anaddas.

Mae Maes Pen-y-Bont yn y parc wedi bod yn gartref i Glwb Rygbi Glynebwy ers dechrau’r 1920au. Mae’r tîm yn dal i gael eu hadnabod fel “Y Dynion Dur”. Ffurfiwyd y clwb ym 1880, gan chwarae ar gae i’r de o’r fan hon i ddechrau. Tuag at ddiwedd y 1990au roedd tŷ domestig y clwb ym Mharc Eugene Cross yn gartref i chwaraewr rhyngwladol Tonga, Kuli Faletau, tra’r oedd yn chwarae i dîm Glynebwy. Fe symudodd ei wraig a’i dri phlentyn yno o Donga. Roeddent yn cynnwys ei fab Taulupe, a ddaeth yn gawr o Wythwr (yng nghefn y sgrym) gan ennill ei 100fed cap i Gymru yn 2023.

Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cod post: NP23 5AZ    Map

Gwefan Clwb Rygbi Glynebwy

button-tour-ebbw-vale-town-trail previous page in tournext page in tour