Cerflun y Ddraig, Sgwâr y Banc, Glynebwy
Crëwyd y man cyhoeddus a adwaenir fel Sgwâr y Banc yn 2014 fel rhan o adfywio’r dref. Yn ganolbwynt iddo mae draig, wedi’i gwneud o ddur gloyw ac yn bedair metr o uchder. Mae’r cerflun yn cyfeirio at y ddraig eiconig ar faner Cymru ac at hanes Glynebwy fel canolfan cynhyrchu dur. Fe’i gwnaed gan gwmni gofaint Phoenix Forge yng Nghaerfyrddin.
Mae Sgwâr y Banc wedi’i enwi ar ôl yr adeilad ar ei ochr ogleddol. Roedd hwn yn gartref i gangen leol Banc y Midland ac yn ddiweddarach HSBC (a gymerodd y Midland drosodd ym 1992).
Mae’r camystum yn y man hwn yn Stryd Bethcar yn adlewyrchu dau gyfnod yn natblygiad y stryd. Ar ganol y 19eg ganrif, roedd y stryd i’r gogledd o’r fan hon wedi’i diffinio gan resi o adeiladau bob ochr i Gapel Bethcar a chyferbyn. Nid oedd yn bosibl adeiladu ar hyd y stryd ymhellach tua’r de am bod cronfa ddŵr a oedd yn perthyn i’r gweithfeydd dur ar ochr ddwyreiniol y ffordd ac arglawdd tramffordd ar ei hochr orllewinol.
Erbyn diwedd y 1890au, roedd cornel ogledd-orllewinol y gronfa ddŵr wedi cael ei llenwi. Fe wnaeth hyn hi’n bosibl gwasgu nifer o adeiladau newydd, gan gynnwys y banc, i mewn. Roedd y lle mor gyfyng fel bod blaenau'r adeiladau newydd yn ymwthio allan y tu hwnt i adeiladau cynharach y stryd, gan greu’r camystum yn y stryd.
Yn gynnar yn yr 20fed ganrif, cafodd y gronfa ddŵr ei lleihau i fod yn ddarn hirgul ac fe ddilëwyd arglawdd y dramffordd. Buan iawn y codwyd adeiladau ar hyd dwy ochr y stryd ond eto roedd y lle’n gyfyng, felly mae’r stryd yn gulach i’r de o Sgwâr y Banc nag i’r gogledd ohono.
Mae’r olwg o’r awyr sy’n dyddio o 1944, a ddarparwyd trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y gronfa ddŵr fel darn hirgul tywyll yn y canol, gydag adeilad y banc ar bwys ei phen ogleddol. Yng nghornel waelod yr ochr dde ceir y maes hamdden, a adwaenir fel y Maes Ymarfer, sef y prif safle ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1958. Yn ddiweddarach daeth hwn yn rhan o’r gweithfeydd dur, ac fe symudwyd Cylch yr Orsedd i’w safle presennol.
Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cod post: NP23 6HW Map
![]() |