Iard gychod Dinas, Y Felinheli
Mae'r ardal hon, a elwir yn Dinas, wedi bod yn ganolfan peirianneg forol ers tro. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd cychod yma ar gyfer gweithrediadau'r Dwyrain Canol.
Yn 1847 symudodd y Parch Rees Jones, pregethwr Methodistaidd ifanc o'r Bermo, i'r Felinheli. Yn fuan, sefydlodd amryw o fusnesau, gan gynnwys adeiladu llongau. Y mwyaf o'i longau coediog hyn oedd yr Ordovic, a adawodd Y Felinheli yng ngwanwyn 1877 i fynd â'i chargo cyntaf o Gaerdydd i'r Eidal.
Roedd hefyd yn groser ac yn berchen ar gyfranddaliadau mewn llongau. Weithiau roedd ganddo hyd at 60 o bobl yn gweithio iddo. Yn 1880 collwyd y barac (llong 3 mast a hwyl sgwâr iddi) yr A M Rowlands, yr oedd yn rhannol berchen arni, ar Gefnfor yr Iwerydd wrth hwylio o St Lucia i Falmouth, Cernyw. Cafodd y criw eu hachub gan farac o Norwy, gan adael eu llong "mewn cyflwr suddo". Cafodd ymchwiliad swyddogol ei gynnal yn ddiweddarach i'r "gadawiad" hwn.
Disgynnodd y Parch Jones yn farw yn 1885 tra'n traddodi anerchiad mewn cyfarfod o bregethwyr Arfon. Parhaodd y busnes adeiladu llongau gan ei fab, William Edward Jones, ond dechreuodd golli allan i iardiau llongau dur yn hytrach na choed.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cymerwyd yr hen iard longau drosodd gan Dowsett Engineering Construction Ltd (neu Dow-Mac) i adeiladu cychod gwaelod gwastad ar gyfer y Morlys. Cafodd rhai o'i pheirianwyr eu symud yma o'i gartref ar arfordir Suffolk, ardal oedd yn agored i ymosodiad.
Roedd pob tyg tua 15 metr o hyd gyda thŷ olwyn bach yn y cefn. Eu pwrpas oedd tynnu ysgaffiau (barges), oedd hefyd yn cael eu gwneud yma, hyd ddyfroedd Gwlff Persia, oedd yn hanfodol ar gyfer ymdrech ryfel y Cynghreiriaid. Cyn cael eu cludo i Lerpwl mewn lori, cafodd pob un ei dreialu yn Afon Menai.
Heddiw mae'r Gwasanaethau Peirianneg Forol yn parhau â'r traddodiad o wasanaethu llongau, ar gyfer perchnogion masnachol a hamdden. Mae llawer o longau a ddefnyddir ar gyfer adeiladu a chynnal ffermydd gwynt wedi cael eu gwasanaethu yma.
Gyda diolch i Adrian Hughes, o'r Home Front Museum, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL56 4RQ Gweld Map Lleoliad
Gwefan Marine Engineering Services
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |