Gorsaf reilffordd Cathays, Caerdydd
Dyma oedd yr orsaf reilffordd newydd gyntaf yng Nghymru ers 41 mlynedd pan agorodd ym mis Hydref 1983. Fe'i hadeiladwyd ger safle sied injans y Taff Vale Railway – lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 1883 (gweler isod).
Roedd agor gorsaf Cathays yn drobwynt i reilffyrdd Cymru, ar ôl degawdau o gau llinellau a gorsafoedd. Erbyn yr 1980au, roedd Cyngor Sir De Morganwg eisiau gwella gwasanaethau rheilffordd lleol i hwyluso mynediad i Gaerdydd a lleddfu ar dagfeydd traffig.
Adeiladwyd yr orsaf newydd ychydig i'r de o hen arosfan Ffordd Woodville (platfform ar gyfer trenau tua'r gogledd yn unig). Costiodd gorsaf Cathayss £83,000 (dros £270,000 heddiw). Roedd y cyngor yn disgwyl i hyd at 600 o deithwyr y dydd ei defnyddio. Yn 2023-24, fe'i defnyddiwyd gan 2,255 o deithwyr y dydd!
Amheuai'r Swyddfa Gymreig yr angen am orsafoedd newydd a darparwyd yr isafswm ar gyfer Cathays. Dim ond 60 metr o hyd oedd y platfformau, fel y gwelir yn y llun o 1990. Maent wedi cael eu hymestyn dwywaith, ar gyfer trenau hirach.
Mae agosrwydd Prifysgol Caerdydd yn arwyddocaol. Darparodd y brifysgol peth o'r tir ar gyfer yr orsaf, a myfyrwyr yw prif ddefnyddwyr yr orsaf. Pan drydaneiddiodd Trafnidiaeth Cymru'r rheilffordd yn gynnar yn y 2020au, ni ddarparwyd cyflenwad pŵer 25kV uwchben y cledrau yn Cathays, er mwyn diogelu sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig y brifysgol rhag aflonyddwch electromagnetig. Mae trenau trydan yn defnyddio eu batris yma.
Roedd gan y Taff Vale Railway iardiau helaeth ychydig y tu hwnt i Ffordd Corbett (sy'n croesi'r rheilffordd ar bont i'r gogledd-orllewin o'r orsaf). Yn 1883 cwblhawyd sied injans fawr. Cyn i locomotifau stêm ddechrau defnyddio'r sied, gorchuddiwyd y traciau er mwyn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr adeilad ym mis Awst 1883. Roedd digon o seddi y tu mewn i 8,000 o bobl a lle i 12,000 arall i sefyll!
Defnyddiwyd y sied injans tan 1964. Mae'r lluniau awyr o 1956, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y sied injans hir ar y chwith a’r fan lle adeiladwyd gorsaf Cathays yn hywrach ar y dde. Mae arosfan Ffordd Woodville ychydig islaw pont Ffordd Corbett yn y llun isaf, a phrif adeilad y brifysgol ar y chwith isaf.
Cod post: CF10 3LU Map