Pont haearn bwrw, Aberogwen, Bangor
Adeiladwyd y bont hon dros yr afon Ogwen yn 1824 gan ddefnyddio cydrannau o Ferthyr Tudful.
O’r lan gallwch weld ei fwa cain ac arno dyddiad adeiladu’r bont a’r geiriau: “Cast at Penydarran Ironworks Glamorganshire”. Roedd y bont yn perthyn i Stad y Penrhyn a doedd dim hawl tramwyo i’r cyhoedd tan fis Gorffennaf 2024, pan ddargyfeiriwyd Llwybr Arfordir Cymru i’w chroesi (gweler isod).
Rhoddai’r bont fynediad i drigolion a gweision Castell Penrhyn i gornel ogledd-ddwyreiniol y stad, lle’r oedd cenelau ac ardal meithrin ffesantod. Yn ôl y Cambrian Archaeological Association yn 1900, yn flaenorol roedd cored pysgod i lawr yr afon o'r bont, ac mae'n bosibl bod Capel Ogwen, ychydig i'r dwyrain, wedi'i adeiladu i offeiriad y plwyf i ddiolch am y ddalfa. Roedd cromlech fawr ger y fynedfa i'r gored bysgod. Roedd y môr wedi erydu'r tir o gwmpas y gromlech.
I'r de o'r bont mae'r Ogwen yn llifo dros sawl cored. Credir bod dŵr yn cael ei orlifo dros y dolydd cyfagos yn y gaeaf i’w rewi a’i gludo fel iâ i Gastell Penrhyn, lle y cedwid bwyd yn oer ymhell cyn i’r rheweiddio modern gael ei ddyfeisio.
Yn wreiddiol roedd Llwybr Arfordir Cymru yn cynnwys dargyfeiriad hir o amgylch Stad y Penrhyn. Agorwyd darn 3.2km newydd ar hyd y draethlin rhwng Aberogwen a Phorth Penrhyn ym mis Gorffennaf 2024, yn dilyn cytundeb rhwng Cyngor Gwynedd, Richard Douglas Pennant ac ymddiriedolwyr Penrhyn Settled Estates. Arianwyd y y llwybr newydd gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i gynlluniwyd i osgoi tarfu ar y cynefin bywyd gwyllt rhynglanwol. Mae'n mynd trwy goetir hynafol dynodedig, lle gosodwyd yr agreg ar ddeunyddiau arbennig sy'n amddiffyn gwreiddiau coed. Gosodwyd blychau adar ac ystlumod.
![]() |
![]() ![]() |