Siambr gladdu Carreg Samson, Abercastell

button-theme-prehistoric-more

Carreg Samson yw un o'r siambrau claddu mwyaf trawiadol yn Ne Cymru. Mae'n bellter byr o lwybr yr arfordir, wrth ymyl y llwybr troed i Fferm Longhouse.

Adeiladwyd Carreg Samson yn y cyfnod Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) tua 5,500 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd ffordd newydd o fyw yn ymledu ar hyd arfordiroedd yr Iwerydd yn Ewrop. Roedd hyn yn seiliedig ar ffermio yn hytrach na hela a chasglu, a chyflwynodd y ffermwyr cyntaf hyn gnydau a da byw i Brydain.

Photo of Carreg Samson and distant ridgeDaethant â'r crochenwaith cyntaf yma hefyd, ynghyd â'r arfer o adeiladu henebion cerrig mawr, fel Carreg Samson. Mae'r megalithau hyn i'w cael ar hyd arfordir yr Iwerydd o Sbaen i Ynysoedd Erch (Orkney). Yn Sir Benfro mae olion o leiaf 30 o strwythurau megalithig i'w gweld hyd heddiw.

Dim ond rhan o’r heneb wreiddiol a welwn yma heddiw. Mae'r gweddillion yn cynnwys chwe carreg unionsyth, gyda thair ohonynt yn cynnal maen capan enfawr sy'n 4.7 metr wrth 2.7 metr ac 1 metr o uchder. Byddai hyn wedi cael ei orchuddio gan domen o bridd a cherrig, gan adael y capfaen yn y golwg o bosibl. Ers amser maith mae'r ddaear a'r mân gerrig wedi diflannu, o bosib wedi eu hailddefnyddio yn y waliau cyfagos.

Os ydych chi'n sefyll ar ochr fewndirol Carreg Samson yn edrych tuag at grib creigiog Garn Fawr ar Ben Strwmbwl, mae amlinelliad y maen capan bron yn adlewyrchu amlinelliad y grib (fel y dangosir yn y llun gan Philip Lees). Mae'n debygol bod tirwedd a hynafiaethau yn rhan bwysig o systemau cred cynnar y ffermwyr.

Roedd Carreg Samson yn cael ei adnabod fel bedd bys Samson ar un adeg. Mae chwedl leol yn cofnodi bod Sant Samson, mab llys brenhinol ac abad diweddarach y fynachlog ar Ynys Bŷr, wedi codi'r maen capan 12 tunnell i'w le gyda'i fys bach – ond wedi torri'r bys wrth wneud hynny.

Gyda diolch i Philip Lees a Tomos Jones, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Gweld Map Lleoliad

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button