Gorsaf reilffordd Aberdâr

Transport for Wales logo round sign-out 

Yng nghanol y 1980au roedd gan Aberdâr wasanaeth trenau ar ddydd Sadwrn yn unig. Dechreuodd trenau dyddiol i Gaerdydd ym mis Hydref 1988 fel rhan o'r ymdrech i adfywio cyn-gymunedau glofaol.

Agorwyd gorsaf gyntaf Aberdâr (lle mae’r orsaf fysiau heddiw) yn 1846 gan yr Aberdare Railway Company (ARC), gyda chefnogaeth y meistri haearn Crawshay Bailey a John Guest. Roedd trenau'n cysylltu Abercynon â rheilffordd y Taff Vale Railway (TVR) rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd. Bu'r TVR yn prydlesu ac yn gweithredu cangen Aberdâr yn fuan. Cymerodd y TVR yr ARC drosodd yn 1902.

Aerial photo of Aberdare railway stations in 1942Agorodd ail orsaf reilffordd Aberdâr yn 1851 ar y Vale of Neath Railway, o Gastell-nedd drwy Hirwaun. Peiriannwyd y llinell hon gan Isambard Kingdom Brunel ac yn wreiddiol roedd y traciau yn llydan (2,140mm rhwng y cledrau yn lle'r 1,435mm arferol). Parhaodd i Fynwent y Crynwyr ac ymlaen i Bont-y-pŵl.

Roedd Great Western Railway yn berchen ar y ddwy reilffordd erbyn canol y 1920au ac ailenwyd gorsafoedd Aberdâr yn Lefel Isel (TVR gynt) a Lefel Uchel. Gallwch weld adeilad gorsaf yr olaf ar draws y trac o’r orsaf bresennol, ychydig ymhellach i gyfeiriad Hirwaun.

Roedd llawer o bobl leol yn gweithio ar y rheilffyrdd, gan gynnwys yn yr iardiau nwyddau wrth ymyl y ddwy orsaf. Yn 1894, aeth 40 i 50 o lanhawyr injans yn nepo locomotifau Aberdâr ar streic. Yn 1903 cafodd William Durbin, llafurwr gosodwr signalau yng ngorsaf Aberdâr, ei anafu’n angheuol gan drên wrth iddo weithio ger y trac i osod byrddau i wella diogelwch i weithwyr ochr y trac – dilynwch y ddolen isod am ei stori.

Mae'r awyrlun o 1942, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y ddwy orsaf a’r depo – gweler y troednodiadau am fanylion.

Photograph of shoppers' train at Aberdare in 1984Parhaodd teithwyr i Gaerdydd i newid trenau yn Abercynon nes i Aberdâr golli ei drenau teithwyr ym 1964. Roedd trenau glo o Lofa’r Tŵr, ger Hirwaun, yn defnyddio lein Cwm Nedd drwy Gwmbach cyn belled ag Aberpennar, gan ganiatáu i hen reilffordd y TVR ddod yn ffordd A4059.

Yn 1984 dechreuodd British Rail drenau achlysurol i Gaerdydd – yn bennaf trenau siopwyr ar ddydd Sadwrn – o blatfformau segur yn Aberdâr (Lefel Uchel) ac Aberpennar, gan ddefnyddio trenau cymudwyr a fenthycwyd o Lundain neu Birmingham. Aeth rhai trenau i Ynys y Barri yn yr haf. Mae’r llun gan Peter Clark yn dangos trȇn siopwyr a hen adeilad yr orsaf ym mis Rhagfyr 1984.

Darparodd Cyngor Sir Morgannwg Ganol a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop £2m i adeiladu pum gorsaf newydd ar gyfer gwasanaethau dyddiol i Gaerdydd. Ym mis Tachwedd 2024, dechreuodd Trafnidiaeth Cymru redeg trenau trydan ar reilffordd Aberdâr, fel rhan o waith moderneiddio gwerth £1bn a oedd yn cynnwys trac ychwanegol i alluogi pedwar trên yr awr o Aberdâr i Gaerdydd.

Cod post: CF44 0PU    Map

Mwy am ddamwain angheuol William Durbin - o brosiect Gwaith, Bywyd a Marwolaeth ar y Rheilffyrdd

Troednodiadau
: Beth allwch ei weld yn yr awyrlun o 1942

Mae Lefel Uchel Aberdâr (sef gorsaf heddiw) yn y canol, ar y lein o Gastell Nedd i Fynwent y Crynwyr a Phont-y-pŵl. Mae hen orsaf y TVR ger y gwaelod, ar y lein a oedd bryd hynny’n arwain i Abercynon a Chaerdydd. Ger top y llun mae'r depo locomotifau a'i siediau injan. Arweiniodd y lein oedd yn troi i'r chwith at bwll glo Bwllfa Dâr, lle mae Parc Gwledig Cwm Dâr nawr.